Deall Hysbysebion a Thalu Fesul Clic - CCIF (Ar-Lein)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Gall defnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion talu fesul clic (PPC) fod yn ffordd effeithiol tu hwnt o gyrraedd mwy o bobl ar-lein ac ategu traffig cyffredinol y we.
Bydd cynllunio’ch strategaeth hysbysebion rydych chi’n talu amdanynt yn iawn hefyd yn eich helpu i ddod o flaen y gynulleidfa gywir, hyd yn oed gyda chyllideb fach, gan ganiatáu i chi dargedu cwsmeriaid yn gywir trwy ddefnyddio allweddeiriau, lleoliad, demograffeg, diddordeb, ymddygiad a mwy.
Felly, sut rydych chi’n trefnu ac yn rheoli hysbysebion rydych chi’n talu amdanynt er mwyn cael y canlyniadau gorau? Ymunwch â gweminar Deall Hysbysebion a Thalu Fesul Clic sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, i ddysgu sut.
Byddwn yn trafod:
- Cyflwyniad i dalu fesul clic
- Dechrau arni gyda Google Ads
- Gwneud y mwyaf o chwilio lleol trwy dargedu’ch cynulleidfa yn gywir
- Ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol rydych chi’n talu amdanynt – a ddylech chi hybu postiad neu gynllunio hysbyseb?
- Cyflwyniad i Ad Manager ar gyfer Facebook ac Instagram
- Syniadau am:
- Adeiladu eich cynulleidfa
- Ymchwil i allweddeiriau
- Gosod nodau
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom