[ Neidio i Gynnwys ]

Dechrau Arloesi - O’r Syniad i Weithredu

Trosolwg

Cost: Am ddim

Diben y weminar hon yw cefnogi’r holl gleientiaid (Cynnyrch a Gwasanaeth) sy’n dechrau arni mewn busnes arloesol i lywio’r daith o’r syniad cychwynnol hyd at fasnacheiddio. Bydd y weminar hon yn trafod pob agwedd ar arloesedd a’r broses o ddod yn barod i fuddsoddi. Bydd cyfranogwyr yn derbyn nifer o adnoddau i alluogi eu taith, gan gynnwys rhagolwg cynllunio ariannol a thempled busnes Twf ac Arloesi Busnes Cymru. Yn ogystal, bydd cyfranogwyr yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus er mwyn gallu gwneud defnydd o ecosystem o gymorth arloesi

Deilliannau Dysgu:

  • Bydd unigolion yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng creu ac Arloesi
  • dysgu am yr heriau i ddechreuwyr mewn busnes arloesol
  • Sut i adnabod y gwahanol fathau o arloesedd
  • Sut i ystyried yr amgylchedd a’r diwylliant arloesi
  • Byddwn yn trafod creu Cynnyrch Hyfyw Lleiaf (MVP), profi’r farchnad ac adborth
  • Byddwn yn trafod dadansoddi cystadleuwyr ac ymchwil
  • Bydd unigolion yn clywed am astudiaethau achos llwyddiannus
  • Byddwn yn dysgu sut i greu Strategaeth Fusnes a all eich tywys o Greu Syniad hyd at Weithredu (caiff adnoddau eu darparu)

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru

Dyddiadau

17 Gorffennaf 2025, 10:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

21 Awst 2025, 10:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

18 Medi 2025, 10:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan