Dechrau Arni i Ehangu: Rhaglen Twf i Fusnesau Newydd
Trosolwg
Cost: Am ddim
Wrth gynllunio i ddechrau eich busnes twf eich hunain, mae nifer o ystyriaethau y mae’n rhaid i Entrepreneur eu hwynebu!
Yn meddwl am gyflogi tîm? A fyddwch chi’n gweithio gartref neu yn y swyddfa neu’r ddau? Beth fydd eich - isadeiledd TG, eich strategaeth farchnata a sut ydych yn mynd i gofrestru ar gyfer TAW? Gall y rhestr fod yn ddiddiwedd ac yn hynod ddychrynllyd, yn enwedig mewn cyfnodau ansicr.
Mae Busnes Cymru wedi creu rhaglen arloesol, ar-lein, “Dechrau Arni i Ehangu!”, a fydd yn eich arwain drwy’r broses dechrau arni i sicrhau eich bod yn hyderus i gynhyrchu eich cynllun busnes eich hun.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Sesiynau addysgiadol ar-lein gydag Ymgynghorydd “Dechrau Arni i Ehangu!” profiadol
- Modiwlau “dilyniant” i archwilio gwahanol bynciau mewn mwy o fanylder
- Adnoddau busnes i’ch cynorthwyo chi yn y broses gynllunio
- Gwaith cartref! I ddatblygu’ch meddyliau a syniadau
- Templedi o gynlluniau busnes
- Bod yn rhan o rwydwaith o Entrepreneuriaid sy’n datblygu eu busnesau newydd
- Cyflwyniadau i raglenni eraill y tu hwnt i’r rhaglen Busnes Cymru
- Sgwrs Holi ac Ateb fyw
Cysylltwch â'n tîm heddiw ar 01656 868500 i sicrhau eich lle ac i dderbyn cyfarwyddiadau ar ymuno.
Dyddiadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom