Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae dechrau busnes twf yn dod gyda rhestr hir o benderfyniadau - p’un a fyddwch yn cyflogi tîm, yn gweithio gartref neu o’r swyddfa (neu’r ddau), pa offer TG fydd eu hangen arnoch, sut byddwch yn marchnata eich cynnig, a phryd i gofrestru am TAW - gall deimlo’n frawychus.
Mae’r weminar Dechrau Arni i Ehangu gan Busnes Cymru wedi’i dylunio i gefnogi busnesau newydd gyda photensial twf, gan eich arwain drwy'r camau allweddol o lansio a datblygu busnes o'r newydd fel y gallwch greu cynllun clir, hyderus.
Byddwch yn derbyn adnoddau ymarferol gan gynnwys gwerslyfr gweminar, adnoddau cynllunio busnes, templed cynllun busnes a thempledi llif arian, ochr yn ochr â sesiwn Holi ac Ateb fyw. Ar ôl y weminar, cewch fynediad at gymorth ac arweiniad parhaus gan Gynghorydd Twf Busnesau Newydd Busnes Cymru a’r ecosystem ehangach o gefnogaeth Busnes Cymru.
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch yn:
· Deall y tasgau allweddol angenrheidiol i ddechrau busnes a pharatoi i lansio.
· Cydnabod pwysigrwydd ymchwil i’r farchnad ac adnabod eich cwsmeriaid posibl.
· Dysgu sut i ddatblygu busnes twf newydd a gwneud y mwyaf o botensial eich busnes.
· Gwybod sut i greu cynllun busnes, rhagolygon ariannol a llif arian.
· Archwilio lle i gael cyngor a sut i gael cyllid, yn ogystal â pha gefnogaeth sydd ar gael drwy Busnes Cymru.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom