Dechrau'n Gryf: Meddylfryd Perchennog Busnes
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae dechrau busnes yn cynnig cyfleoedd cyffrous ochr yn ochr â heriau newydd ac ansicrwydd. Bydd y weminar ryngweithiol hon yn archwilio'r meddylfryd sydd ei angen i ddechrau a datblygu busnes gyda hyder, gwydnwch a hunangred.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut i gydnabod ac adeiladu ar lwyddiant, ymateb i ansicrwydd a heriau, cymryd perchnogaeth o'u penderfyniadau, a chanolbwyntio eu hegni ar yr hyn y gallant ei reoli a dylanwadu arno. Drwy offer ymarferol, cwestiynau hyfforddi a chyfleoedd i fyfyrio, bydd cyfranogwyr yn datblygu mwy o hunanymwybyddiaeth ac yn dysgu strategaethau i gryfhau gwydnwch, hyder a'r gallu i wneud penderfyniadau.
Bydd cyfranogwyr yn gadael gydag offer ymarferol a chamau gweithredu clir y gallant eu defnyddio i gefnogi eu hunain a'u busnes.
Mae Dyddgu Hywel yn Hyfforddwr a Mentor cymwysedig (ICF), yn hwylusydd profiadol ac yn Fodel Rôl gyda Busnes Cymru, gan arbenigo mewn hyder, gwydnwch, arweinyddiaeth a pherfformiad cynaliadwy. Drwy Dyddgu Hywel Coaching, mae'n cefnogi unigolion i gryfhau eu meddylfryd, datblygu hunanymwybyddiaeth a throi mewnwelediad yn gamau gweithredu ystyrlon.
Fel cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, mae Dyddgu yn dod â phrofiad uniongyrchol o amgylcheddau perfformiad uchel, gwydnwch, gwaith tîm a pherfformio dan bwysau. Mae ganddi hefyd dros 15 mlynedd o brofiad ym maes addysg a hwyluso, gan roi gallu cryf iddi ymgysylltu ag ystod eang o gynulleidfaoedd a chreu profiadau dysgu rhyngweithiol a phwrpasol.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Dyddiadau
Amodau arbennig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a’n gweithdai ar gael yn
Gymraeg ac yn Saesneg. Wrth gofrestru, trafodwch eich dewis iaith.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom