Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 28 Hydref 2024 a bydd yn trawsnewid sut y caiff contractau cyhoeddus eu caffael.
Bydd y drefn newydd yn darparu caffael symlach, mwy effeithiol yn y sector cyhoeddus, ac yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) i sicrhau cyfran fwy o oddeutu £300bn o wariant y flwyddyn. Bydd dyletswydd benodol ar awdurdodau contractio nawr i roi sylw i'r rhwystrau a allai fod gan BBaChau wrth sicrhau contractau cyhoeddus a chwalu'r rhwystrau hynny.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Bydd y sesiwn hon yn tywys busnesau bach a chanolig drwy brif ddarpariaethau y Ddeddf Caffael 2023 ac yn rhoi arweiniad ar sut gallent baratoi cyn gystal â phosibl er mwyn sicrhau bod ganddynt y siawns gorau o ennill contractau cyhoeddus.
Mae’r sesiwn hon ar gael ar dri dyddiad:
Medi 18fed – 10:00yb – 11.30 yb - Ar lein > Yma.
Medi 24ain – 12.00yp – 13:30yp – Ar lein neu Wyneb yn Wyneb
Hydref 8fed - 12.00yp -13:30yp - Wyneb yn Wyneb > Yma.
Sylwer – Mae’r sesiwn hon ar gael naill ai ar-lein drwy Teams neu Wyneb yn Wyneb yn swyddfeydd Blake Morgan, Caerdydd. Nodwch yn ystod y broses archebu os byddwch yn mynychu ar-lein neu yn bersonol.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales