[ Neidio i Gynnwys ]

Defnyddio technoleg i wella canlyniadau symudedd buchod

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ymunwch â ni yn Fferm Moreton i glywed mwy am ein treial gan ddefnyddio technoleg i asesu symudedd buchod, gyda'r defnydd o Cattle Eye, system fonitro symudedd wedi’i hawtomeiddio. Bydd canfod a thrin unrhyw faterion cloffni yn gynharach yn arwain at ganlyniad cyflymach a mwy effeithiol, gan leihau unrhyw effeithiau negyddol ar gynhyrchiant.

Bydd Sara Pedersen, ymgynghorydd milfeddygol gyda Farm Dynamics Ltd ac sy'n arbenigo mewn iechyd y carnau yn ymuno â ni. Bydd hi’n trafod y gwaith sy’n cael ei wneud ar Fferm Moreton a sut mae cloffni’n effeithio ar fuches a pherfformiad busnes unrhyw fferm laeth. Bydd ffocws penodol ar integreiddio technoleg i raglenni rheoli iechyd y carnau, a’r effaith y mae gweithredu protocolau arferion gorau canfod yn gynnar a thrin prydlon wedi’i chael ar gloffni cyffredinol ar Fferm Moreton. Bydd trafodaeth hefyd am yr arbedion economaidd a wnaed, adenillion ar fuddsoddiad, effaith ar allyriadau nwyon tŷ gwydr/ôl troed carbon ar y fferm yn seiliedig ar y canlyniadau a welwyd dros gyfnod y prosiect.

Bydd cinio ar gael ar ôl y digwyddiad.

I neilltuo lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch ag Osian Hughes: osian.hughes@mentera.cymru / 07985379880

Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.

What3words: patrolled.encoder.hers

Dyddiadau a lleoliadau

13 Mawrth 2025, 11:00 - 14:00
Moreton Farm, Wrexham, LL13 0YH

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan