Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Nod Arddangosfa BOLD Cymru yw:
Rhannu canfyddiadau’r ymchwil o brosiect Camddefnyddio Sylweddau BOLD Cymru, gan gynnwys:
· Effaith camddefnyddio sylweddau rhwng cenedlaethau: Anomaleddau’r ffetws sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau; plant sy’n derbyn gofal; a’r effaith ar blant pan fydd oedolion ar yr aelwyd yn defnyddio sylweddau
· Ymgysylltu cynnar ac atal defnydd dwysach o sylweddau – y goblygiadau ar gyfer y gwasanaethau iechyd ac o ran atal marwolaethau cyn pryd
· Lleihau aildroseddu a chanlyniadau Gofynion Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau yn y Gymuned
· Effeithiolrwydd triniaeth camddefnyddio sylweddau a’r rhagfynegyddion o beidio â chwblhau triniaeth
· Defnyddio sylweddau, profiad o ddigartrefedd a’r defnydd sy’n cael ei wneud o'r gwasanaeth iechyd
Gweithdai â thema i nodi gwelliannau i bolisi a gwasanaethau gan dynnu ar ganfyddiadau ymchwil BOLD Cymru
Nodi cyfleoedd i adeiladu ar y cynnydd o ran rhannu data a chysylltu data, er mwyn gwella canlyniadau i bobl agored i niwed
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i dargedu at lunwyr polisi, cynllunwyr a chomisiynwyr gwasanaethau iechyd a chamddefnyddio sylweddau, arweinwyr proffesiynol yn y meysydd cyfiawnder troseddol, tai a digartrefedd, gofal cymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau, Iechyd y Cyhoedd a’r byd academaidd.
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
CSI
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales