Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Crynodeb
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnal digwyddiad ymgysylltu i roi gwybodaeth i gyflenwyr ynghylch ar Fframwaith Gwaith Mân. Bydd y digwyddiad yn amlinellu cwmpas y gwaith, y broses gaffael, yr amserlenni disgwyliedig, a'r cyfleoedd i fusnesau lleol gymryd rhan yn y fframwaith.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Trosolwg o'r Fframwaith Gwaith Mân gan Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Y mathau o waith adeiladu a chynnal a chadw sy'n debygol o gael eu cynnwys. Y llwybr caffael, gofynion y tendr a'r amserlenni disgwyliedig. Disgwyliadau o ran gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol. Canllawiau ar sut i gyflwyno tendr am gyfleoedd drwy GwerthwchiGymru Cyfleoedd i rwydweithio gyda swyddogion y Cyngor a phartneriaid. Sesiwn cwestiynau ac atebion.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at gontractwyr lleol, busnesau bach a chanolig, cyflenwyr lleol, is-gontractwyr lleol, is-gontractwyr ac unrhyw sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni prosiectau adeiladu, cynnal a chadw a gwaith mân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot drwy'r trefniant fframwaith newydd.
Pwysig - Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru ac mae wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda’ prynwr at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales