Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio 2026, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 (10:30–14:45).
Mae'r digwyddiad yn agored i ymarferwyr addysg gynradd ac uwchradd a chynrychiolwyr awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cynhwysiant a mynd i'r afael â bwlio.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i:
Bydd rhagor o fanylion a'r agenda lawn yn cael eu rhannu yn agosach at y digwyddiad.
Grŵp Dysgu, Cymunedau a Diwylliant, Llywodraeth Cymru
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r Grŵp Dysgu, Cymunedau a Diwylliant, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn trefnu digwyddiad gwrth-fwlio. Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli'r data personol a ddarperir gennych mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
Byddwn yn casglu ac yn defnyddio'r data personol sydd ei angen i reoli eich cofrestriad a'ch cyfranogiad yn y digwyddiad. Gall hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, sefydliad, rôl, ysgol neu leoliad, gofynion dietegol, gofynion hygyrchedd, ac unrhyw wybodaeth rydych chi'n dewis ei darparu wrth gyflwyno cwestiynau, cymryd rhan mewn trafodaethau, neu lenwi ffurflen werthuso.
Byddwn yn defnyddio eich data personol i reoli presenoldeb, darparu cyfarwyddiadau a gwybodaeth ar gyfer ymuno â'r digwyddiad, cefnogi unrhyw anghenion dietegol neu hygyrchedd, hwyluso cyfranogiad yn ystod y digwyddiad, anfon deunyddiau perthnasol, gofyn am adborth, a defnyddio adborth i lywio polisi, arferion a digwyddiadau gwrth-fwlio yn y dyfodol.
Pan ddarperir cwestiynau, sylwadau neu adborth yn ystod neu ar ôl y digwyddiad, gall timau polisi Llywodraeth Cymru adolygu'r wybodaeth hon i nodi materion, themâu a phryderon allweddol gan y sector ac i helpu i lunio cymorth, adnoddau ac ymgysylltiad yn y dyfodol.
Byddwn yn defnyddio System Rheoli Digwyddiadau fewnol Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Busnes Cymru, i gefnogi'r broses gofrestru ac i reoli'r digwyddiad. Bydd y system yn cael ei defnyddio i gasglu a rheoli'r data personol sydd ei angen i weinyddu'r digwyddiad a chyfathrebu â chyfranogwyr.
Efallai y cewch gyfle i gyflwyno cwestiynau neu sylwadau cyn, yn ystod neu ar ôl y digwyddiad. Lle bo'n bosibl, gallwch ddewis peidio â chynnwys eich enw wrth gyflwyno cwestiynau neu sylwadau. Os nad ydych yn dymuno derbyn deunyddiau ar ôl y digwyddiad, gallwch roi gwybod i drefnwyr y digwyddiad a byddwn yn tynnu eich manylion o'r rhestr ddosbarthu berthnasol.
Ar ddiwedd y digwyddiad, byddwn yn rhannu dolen i ffurflen werthuso i gael eich barn. Efallai y byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn rannu deunyddiau'r digwyddiad â chi neu drafod unrhyw bwyntiau rydych chi'n eu codi, lle bo hynny'n briodol.
Ffotograffiaeth yn y digwyddiad
Ni chaiff y cyflwyniad ei recordio. Bydd ffotograffau yn cael eu tynnu yn ystod y digwyddiad a bydd hyn yn cael ei esbonio i'r cyfranogwyr cyn neu yn ystod y digwyddiad. Gellir defnyddio ffotograffau i rannu'r hyn a ddysgwyd o'r digwyddiad neu i hyrwyddo gwaith Llywodraeth Cymru yn fewnol a/neu'n allanol. Gall hyn gynnwys eu defnyddio mewn adroddiadau, cyflwyniadau, cylchlythyrau, tudalennau mewnrwyd, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol neu ddeunyddiau cyfathrebu ac ymgysylltu eraill.
Os nad ydych am ymddangos mewn ffotograffau, rhowch wybod i drefnwyr y digwyddiad cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn cadw eich data personol am ddim mwy na deuddeg mis ar ôl y digwyddiad. Mae hyn yn ein galluogi i reoli unrhyw weithgaredd dilynol, rhannu deunyddiau digwyddiad, ystyried adborth gwerthuso a defnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r digwyddiad i lywio gwaith gwrth-fwlio yn y dyfodol. Os ydym am ddefnyddio eich data personol at unrhyw ddiben heblaw'r rhai a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn, byddwn yn cysylltu â chi yn gyntaf.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am weld yr wybodaeth a gedwir gan lawer o awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am weld gwybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni. Byddem yn cysylltu â chi cyn cynnwys eich gwybodaeth mewn ymateb i unrhyw gais sy'n cynnwys eich data personol.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, mae gennych hawliau fel unigolyn mewn perthynas â'r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael mynediad at eich data personol, gwrthwynebu mathau penodol o brosesu, gofyn am gywiro data anghywir, a gofyn i ddata personol gael ei gyfyngu, ei ddileu neu ei ddinistrio mewn rhai amgylchiadau.
Gallwch ddarllen rhagor am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Manylion cyswllt
I gael gwybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745 Gwefan: ico.org.uk
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
ECWL
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales