Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Ydych chi'n arweinydd busnes, yn berchennog busnes neu'n entrepreneur sydd â diddordeb mewn gwneud Cymru y lle gorau yn y DU i ddechrau a thyfu busnes?
Ymunwch â ni yn ne-ddwyrain Cymru ar gyfer y cyntaf o bum digwyddiad ymgysylltu rhanbarthol a gynhelir gan Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet, dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i:
• gynyddu cynhyrchiant ledled Cymru?
• gefnogi eich busnes i fuddsoddi, a denu mwy o fewnfuddsoddiad i Gymru?
• ailgynllunio ein dull o ymdrin â sgiliau i ateb eich anghenion chi a’r economi yn well?
Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu economi gryfach, wyrddach a thecach yng Nghymru.
Pwy ddylai fynychu?
Rydym am glywed gan ystod amrywiol o leisiau o bob rhan o'r gymuned fusnes ac o amrywiaeth o sectorau. Mae croeso i bob math o fusnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol a busnesau newydd.
Os ydych yn barod i roi barn heriol adeiladol, rhannu syniadau sy’n gwthio ffuniau a'n hannog i wneud yr un peth, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni.
Er bod rhanddeiliaid a chyrff cynrychioliadol yn grŵp pwysig ac fe’i croesawir, mae ein ffocws ar gyfer y digwyddiad hwn ar fusnesau unigol a'r bobl sy'n eu cynnal. Os gallwch ymuno â ni yn y digwyddiad de-ddwyrain cofrestrwch eich diddordeb trwy lenwi'r ffurflen isod.
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at fusnesau sy'n gweithredu'n bennaf yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yn yr hydref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o'r digwyddiadau hyn, tanysgrifiwch i gylchlythyr Busnes Cymru ac edrychwch allan am ddiweddariadau.
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom