Diogelwch a Phlismona 2027, Farnbourgh 16-18 Mawrth 2027
Trosolwg
Cost: Am ddim
Arweinir digwyddiad Diogelwch a Phlismona 2027 gan Lywodraeth y DU, a dyma ddigwyddiad swyddogol y DU sy'n ymwneud â diogelwch a gorfodi'r gyfraith ac sy'n dwyn ynghyd gyflenwyr, rhanddeiliaid y llywodraeth, heddluoedd a gweithwyr diogelwch proffesiynol o farchnadoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.
Pam ymuno â Phafiliwn Cymru?
- Arddangos eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau ym mhrif ddigwyddiad diogelwch a phlismona y DU.
- Bod yn rhan o bresenoldeb Llywodraeth Cymru yn y digwyddiad Diogelwch a Phlismona am y tro cyntaf erioed.
- Dod i gysylltiad â’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, timau caffael ac arweinwyr y diwydiant.
- Cynyddu gwelededd eich brand ymhlith mwy na 9,000 o ymwelwyr dros dri diwrnod.
- Archwilio cyfleoedd yn ymwneud â chydweithio, allforio a'r gadwyn gyflenwi ar draws y sector diogelwch.
Pecyn Arddangoswr - £750 + TAW a fydd yn cynnwys y canlynol
- Pod arddangos wedi'i frandio ym Mhafiliwn Cymru, gan gynnwys gofod cownter, cyflenwad pŵer a man storio a rennir.
- Defnydd o gyfleusterau cyfarfod ar y stondin.
- Pas arddangoswr ar gyfer tri diwrnod y digwyddiad.
- Cael eich cynnwys yn neunydd marchnata a hyrwyddo Pafiliwn Cymru, pan fo'r rhain ar gael.
- Cyfleoedd i ymddangos yng ngweithgarwch cyfryngau, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus posibl Llywodraeth Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Tachwedd 2026.
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.