Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Crynodeb
Mae Hedyn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyn y farchnad ar gyfer y Fframwaith Atgyweiriadau Ymatebol a fydd yn cynnwys 12 lot:-
Trydanol
Adeiladu Cyffredinol
Toi
Gwaith Saer Coed
Draenio
Rheoli Plâu
Glanhau a Chlirio
Gwresogi a Phlymio
Gardd ac Allanol
Paentio ac Addurno
Gwydro (Ffenestri a Drysau)
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ddarpar gyflenwyr gyfarfod â'r timau Caffael a Chynnal a Chadw, cael trosolwg o'r broses caffael, a dysgu mwy am ofynion y fframwaith.
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio i gyflenwyr a stondinau gwybodaeth, sesiwn holi ac ateb i gasglu adborth gan y farchnad, a chyfraniadau gan denantiaid i helpu cyflenwyr i ddeall yn well disgwyliadau cwsmeriaid a gofynion y gwasanaeth.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Bydd y digwyddiad yma yn rhoi trosolwg o'r Fframwaith Atgyweiriadau Ymatebol, gan gynnwys strwythur yr 12 lot, amserlen y broses gaffael, a'r gofynion allweddol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
Bwriad y digwyddiad yw hysbysu'r farchnad am y cyfle, annog ymgysylltiad gan gyflenwyr, a chasglu adborth er mwyn helpu i lunio’r broses caffael.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad yn agored i gontractwyr presennol a darpar gontractwyr, cyflenwyr a phartneriaid sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau atgyweiriadau ymatebol o dan y fframwaith newydd. Mae'n gyfle i ddeall gofynion y broses gaffael, cwrdd ag aelodau allweddol o'r timau Caffael a Chynnal a Chadw, darparu adborth ar y dull arfaethedig, a chael gwell dealltwriaeth o ddisgwyliadau tenantiaid a blaenoriaethau'r gwasanaeth.
Pwysig – Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gyfyngu i ddau gynrychiolydd fesul busnes, a rhaid i bob cynrychiolydd gofrestru ar wahân.
Caiff y digwyddiad hwn ei ddarparu gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Hysbysiad Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR):
Bydd manlion eich archeb yn cael ei rhanu gyda’ prynwr at ddibenion cydlynu digwyddiadau a chaffael. Drwy archebu, rydych yn rhoi eich caniatâd i rhannu'r data hwn.
Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales