[ Neidio i Gynnwys ]

Dod â’ch Busnes Ar-lein: Canllaw Cynhwysfawr i Fusnesau Bach a Chanolig

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae’r weminar hon yn ganllaw cynhwysfawr i fusnesau bach a chanolig (BBaCh), lle byddwn yn eich arwain drwy’r prif gamau i sefydlu a sicrhau twf eich busnes yn y byd digidol.

  Yn ystod y weminar hon:

  • Diffinio eich Nodau: Deall pwysigrwydd gosod amcanion clir a chyraeddadwy ar gyfer eich taith ar lein.
  • Brandio: Dysgwch sut i greu brand cryf sy’n denu sylw yn y farchnad ddigidol.
  • Datblygu Gwefan: Dysgwch hanfodion creu gwefan lwyddiannus sy’n hawdd i’w defnyddio.
  • Meistroli’r Cyfryngau Cymdeithasol: Cyngor ar ddewis y llwyfannau addas, o Facebook, Instagram, TikTok a mwy, i greu cynnwys diddorol.
  • Strategaethau Marchnata Ar-lein: Archwiliwch wahanol dactegau marchnata ar-lein i ddenu a chadw cwsmeriaid.
  • Hanfodion Optimeiddio Peiriannau Chwilio: Dysgwch hanfodion optimeiddio peiriannau chwilio i fod yn fwy gweladwy.
  • Dadansoddeg a Mewnwelediad: Deall sut i fonitro a dadansoddi eich perfformiad ar-lein.
  • Ymgysylltu â Chwsmeriaid: Darganfyddwch ffyrdd effeithiol o gysylltu gyda’ch cwsmeriaid ac adeiladu ffyddlondeb.

Pam y dylech fynychu?

  • Mewnwelediadau Arbenigol: Cyfle i ddysgu gwybodaeth werthfawr gan arbenigwyr yn y diwydiant gyda blynyddoedd o brofiad.
  • Cyngor y gallwch weithredu arno: Dysgwch gamau ymarferol y gallwch eu gweithredu ar unwaith.
  • Sesiwn Holi ac Ateb Rhyngweithiol: Cyfle i gael atebion i’ch cwestiynau yn fyw gan ein panel o arbenigwyr.

 

Sylwer : Bydd y sesiwn ar 6 Tachwedd 2024 yn cael ei chyflwyno y Gymraeg yn unig.

Business Wales Events Finder - Dod â’ch Busnes Ar-lein: Canllaw Cynhwysfawr i Fusnesau Bach a Chanolig - Cymraeg yn unig (business-events.org.uk)

Dyddiadau

18 Rhagfyr 2024, 13:00 - 14:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

22 Ionawr 2025, 13:00 - 14:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan