[ Neidio i Gynnwys ]

Dod o hyd i’ch lle yn y farchnad

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Pam ei fod yn Bwysig:

Mae llawer o fusnesau newydd yn ei chael hi’n anodd oherwydd eu bod yn swnio yr un fath â phawb arall. Mae sefydlu safle clir yn helpu cwsmeriaid i ddeall pam y dylent eich dewis chi ac yn gwneud marchnata’n llawer haws

Pwyntiau Allweddol a Drafodir:

· Deall problemau ac anghenion cwsmeriaid

· Adnabod cystadleuwyr go iawn

· Dod o hyd i fylchau a chyfleoedd yn y farchnad

· Diffinio eich datganiad o werth unigryw

· Ysgrifennu datganiad safle syml

· Troi mewnwelediadau'n negeseuon marchnata mwy clir

Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda:

· Gwell dealltwriaeth o’u cynulleidfa darged

· Datganiad safle syml

· Datganiad o werth unigryw

· Adnoddau ymarferol i asesu cystadleuwyr ac adnabod cyfleoedd

Bio’r Cyflwynydd –

Olu yw cyd-sylfaenydd Tropic, asiantaeth ddigidol sy’n gweithio gyda busnesau sy’n chwarae rhan allweddol mewn cymdeithas. Cyn sefydlu Tropic, arweiniodd raglenni Cyflymydd yn llwyddiannus ac mae wedi mentora rhai o’r busnesau newydd sydd â’r twf mwyaf yn y DU. Bellach yn gyfarwyddwr strategol yn Tropic, mae ei gleientiaid yn cael cyfuniad perffaith o gipolygon strategol a chanlyniadau creadigol, gan eu helpu nhw i lwyddo yn eu busnes.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

19 Awst 2026, 11:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan