[ Neidio i Gynnwys ]

Dysgu Dros Ginio – Gweminar sy'n archwilio Risgiau Rigio Cynigion ym maes Caffael Cyhoeddus.

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Cyd, sy'n cefnogi gallu ym maes caffael cyhoeddus a masnachol ledled Cymru, yn falch o groesawu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i gyflwyno gweminar Dysgu dros Ginio sy'n archwilio'r risgiau o ran rigio cynigion ym maes caffael cyhoeddus, a sut y gall cyrff cyhoeddus adnabod ac ymateb i ymddygiad cartél.

Gyda thua £11.4 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, bydd y sesiwn yn cefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddiogelu cystadleuaeth deg, sicrhau gwerth am arian a chydymffurfio â chyfraith cystadleuaeth a chaffael.

Beth fydd y digwyddiad yn ei drafod?

Bydd y weminar yn cynnwys:

·       Trosolwg o rigio cynigion ac ymddygiad cartél ym maes caffael cyhoeddus

·       Nodi arwyddion rhybuddio allweddol i gadw golwg amdanynt

·       Astudiaethau achos sy’n deillio o ymchwiliadau diweddar gan y CMA i rigio cynigion

·       Trosolwg o sut y gall y Ddeddf Caffael a basiwyd yn ddiweddar effeithio ar drefniadau gwaith ac arferion caffael yng Nghymru

·       Cipolwg ar ddefnydd y CMA o offer dadansoddi data i ganfod achosion o rigio cynigion mewn data caffael cyhoeddus

·       Canllawiau ymarferol ar y camau mwyaf diogel i'w cymryd wrth adrodd am ymddygiad amheus

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?

Mae'r digwyddiad yn croesawu gweithwyr proffesiynol ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a masnachol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chomisiynu, tendro, gwerthuso, rheoli contractau a llywodraethu, sydd am gryfhau eu dealltwriaeth o risgiau cystadleuaeth a dysgu sut i adnabod a mynd i'r afael ag ymddygiad posibl o rigio cynigion.

Cyflwynir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac fe'i cynhelir gan wasanaeth Cyd, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Am ragor o wybodaeth am Cyd ewch i – www.cyd.cymru

Dyddiadau

20 Mai 2026, 12:00 - 13:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

A Webinar examining the risks of bid rigging in public procurement.

Amodau arbennig

Hysbysiad Preifatrwydd – Recordiadau o ddigwyddiadau gallu caffael

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystod o raglenni i ddatblygu gallu caffael, gan gynnwys trefnu a hyrwyddo digwyddiadau i feithrin gwybodaeth a sgiliau ar draws proffesiwn caffael sector cyhoeddus Cymru.

Gall digwyddiadau gynnwys cyflwyniadau gan Lywodraeth Cymru neu siaradwyr allanol, cyflwyniadau PowerPoint a sesiynau holi‑ac‑ateb. Caiff pob digwyddiad ei recordio i gefnogi rhannu gwybodaeth a gwella gwasanaethau.

Fel rhan o hyn, efallai y bydd recordiad yn ffilmio eich wyneb a/neu'n recordio eich llais.

Bydd cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru, fel rheolydd data, yn prosesu eich data personol. Bydd hyn yn cael ei wneud o dan ein tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddir inni ymgymryd â'r dasg honno. Mae eich gwybodaeth yn hanfodol ar gyfer cymryd rhan yn y digwyddiad. Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth hon, mae’n bosibl na fydd modd i chi gymryd rhan.

Mae rheolydd data yn penderfynu sut a pham y gellir prosesu data personol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am sut rydym yn trin eich data pan fyddwch yn cofrestru i fynychu digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol.

Pa ddata personol sy’n cael eu cadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Bydd modd cofrestru ar gyfer y digwyddiadau a gydlynir gennym drwy Busnes Cymru. Bydd Busnes Cymru yn casglu eich gwybodaeth bersonol, yn benodol eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch sefydliad, ac yn rhannu eich gwybodaeth gyda ni i'n galluogi i reoli eich cais i fynychu'r digwyddiad. Ceir manylion am sut mae Busnes Cymru yn casglu eich gwybodaeth bersonol yn ystod proses gofrestru yma.

Fel arall, efallai y cewch ddolen i adnodd Microsoft drwy e-bost er mwyn ymuno â'r digwyddiad.

Byddwn yn recordio pob digwyddiad. Byddwn yn rhoi gwybod i'r mynychwyr am hyn cyn i'r recordiad ddechrau. Cedwir recordiadau o ddigwyddiadau ar lwyfannau Llywodraeth Cymru neu lwyfannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd fel YouTube a LinkedIn. Bydd enwau'r mynychwyr yn cael eu cynnwys yn y recordiadau. Mae mesurau diogelu priodol ar waith yn unol â GDPR y DU pan fo llwyfannau yn prosesu data y tu allan i'r DU.

Yn ogystal, byddwn yn casglu data personol drwy gwestiynau Holi ac Ateb agored os bydd yr ymatebwyr yn darparu gwybodaeth a allai eu hadnabod. Bydd yr wybodaeth hon yn weladwy i bob mynychwr oni bai eich bod yn cyfrannu’n ddienw. Bydd y sylwadau/cwestiynau hyn yn cael eu cofnodi yn y trawsgrifiad.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych wrth gofrestru i ofyn am adborth ar ôl y digwyddiad. Gofynnir am adborth drwy ein meddalwedd arolygon 'Smart Survey' lle gofynnir i ymatebwyr ddarparu eu henwau a'u manylion cyswllt. Trwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol, rydych yn cydsynio i ni ei defnyddio i gael adborth pellach mewn perthynas â'r wybodaeth rydych wedi’i darparu. Mae darparu eich gwybodaeth gyswllt yn yr Arolwg yn gwbl wirfoddol. 

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi am ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Trwy ddarparu eich gwybodaeth bersonol, rydych chi'n cydsynio i ni gysylltu â chi at y diben hwn.

  Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl a dewis peidio â derbyn cyfathrebiadau yn y dyfodol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir yn yr adran Rhagor o wybodaeth isod.

  Yr wybodaeth ychwanegol yr ydym yn ei chasglu.

O bryd i'w gilydd rydym yn defnyddio meddalwedd arolygon sy'n caniatáu i ymatebwyr gadw a dychwelyd i arolwg, fel nad oes yn rhaid iddynt gwblhau arolwg mewn un tro. Os ydych yn dewis 'cadw a pharhau yn nes ymlaen', bydd y meddalwedd yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn gallu cynhyrchu dolen unigryw a'i e-bostio atoch, fel eich bod yn gallu dychwelyd i’r arolwg a’i gwblhau ar adeg gyfleus. Dim ond at ddiben ailagor yr arolwg y bydd y feddalwedd yn cadw’r wybodaeth hon. Ni fydd byth ar gael fel rhan o'ch ymateb i'r arolwg ac nid oes modd i Dîm Gallu Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru gael gafael arni. Wedyn, mae'r wybodaeth yn cael ei dileu yn unol â gweithdrefnau cadw data’r feddalwedd (h.y. caiff data arolwg ei ddileu ar ddiwedd gwaith y grŵp defnyddwyr a'i dynnu o'r feddalwedd ar ôl 30 diwrnod).

Nid yw’r cwestiynau a ofynnir yn ein harolygon adborth yn gofyn yn benodol am unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Os bydd unrhyw un o'ch ymatebion yn rhoi gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i ni, yna bydd yn cael ei hepgor o'r holl adroddiadau.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol?

Cofnodir presenoldeb yn y digwyddiad a gwneir y gwaith gweinyddu angenrheidiol ar gyfer y digwyddiad o dan Erthygl 6(1)(e) (tasg gyhoeddus).

Mae defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu â chi am ddigwyddiadau neu gyfleoedd tebyg yn y dyfodol a gofyn am eich adborth ar ôl y digwyddiad, yn seiliedig ar eich cydsyniad o dan Erthygl 6(1)(a).

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad, rhoi adborth a chytuno i dderbyn cyfathrebiadau yn y dyfodol yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich cyfranogiad, eich barn a'ch profiadau yn bwysig i gefnogi gwaith meithrin gallu, i wneud gwelliannau ac i ddarparu ein gwasanaethau.

Pa mor ddiogel yw eich data personol a gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth bersonol adnabyddadwy a rennir wrth gofrestru yn cael ei chadw gan Dîm Gallu Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru a bydd staff yr is-adran honno ond yn defnyddio’r wybodaeth i rannu cyfathrebiadau am ein gwasanaethau. Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei storio mewn rhan warchodedig o iShare (y system fewnol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i reoli dogfennau).

Gellir cadw recordiadau ar lwyfannau Llywodraeth Cymru neu lwyfannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd fel YouTube neu LinkedIn er mwyn sicrhau hygyrchedd, rhannu gwybodaeth a thryloywder. Os caiff ei gynnwys yn y recordiad, bydd eich enw yn cael ei arddangos yn y recordiad sy’n cael ei lanlwytho a bydd ar gael i'r cyhoedd.

Pan ddefnyddir systemau trydydd parti (fel Busnes Cymru, adnoddau Microsoft, neu Smart Survey), maent yn gweithredu fel proseswyr data ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n ofynnol iddynt brosesu data personol yn ddiogel ac yn unol â GDPR y DU.

Adrodd ar adborth

Wrth adrodd ar y canfyddiadau o'r adborth a dderbyniwn, bydd y tîm yn sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r arolwg hwn mewn fformat dienw.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich enw, eich cyfeiriad e-bost ac enw'ch sefydliad ar gyfer digwyddiadau cysylltiedig yn y dyfodol. Bydd y data personol hwn yn cael ei gadw trwy gydol y Rhaglen Gallu a chaiff ei ddileu dri mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben os yn berthnasol.

Os nad ydych am i ni gadw eich manylion at y diben hwn, cysylltwch â ni drwy'r cyfeiriad e-bost a nodir yn yr adran Rhagor o wybodaeth isod.

Yn ystod y digwyddiad byddwn yn defnyddio adnoddau Microsoft at ddibenion trawsgrifio, a bydd y trawsgrifiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel cofnod o'r wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y digwyddiad. Rydym yn cadw trawsgrifiadau am hyd at dair blynedd i gefnogi rhannu gwybodaeth, i werthuso effaith digwyddiadau ac at ddibenion archwilio. Bydd cynnwys nad yw'n berthnasol mwyach yn cael ei adolygu a'i ddileu'n gynharach lle bo'n briodol.

Rydym yn cadw recordiadau o ddigwyddiadau am hyd at dair blynedd i gefnogi rhannu gwybodaeth, i werthuso effaith digwyddiadau ac at ddibenion archwilio. Bydd cynnwys nad yw'n berthnasol mwyach yn cael ei adolygu a'i ddileu'n gynharach lle bo'n briodol.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch:

·       Gweld copi o'ch data eich hun;

  • Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn bod eich data yn cael eu 'dileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

  Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych gwestiynau eraill am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarperir fel rhan o'r gwaith hwn, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

  Enw: Tîm Gallu Masnachol

Cyfeiriad e-bost:  GalluMasnachol@llyw.cymru

  Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: cy.ico.org.uk

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

CSI
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan