[ Neidio i Gynnwys ]

E-Fasnach – Rhyngwladoli eich Gwefan: Gweithdy Sgiliau Technegol

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Rhyngwladoli eich gwefan

A yw eich gwefan a'ch presenoldeb ar-lein yn ddigon da?  A yw eich gwefan yn weladwy yn rhyngwladol? Dewch draw i gael cynghorion ar adeiladu gwefan ryngwladol a gwneud y defnydd gorau ohoni ar gyfer eich busnes allforio.

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyngor a chanllawiau ar sut y gallwch roi hwb i'ch gwerthiannau allforio drwy werthu drwy eich gwefannau eich hun i gwsmeriaid rhyngwladol.

Ar ôl y cyflwyniad yn y bore bydd cyflwyniad yn y prynhawn ar sut y gall eich cwmni ddefnyddio LinkedIn yn effeithiol i adeiladu rhwydweithiau ac ymwybyddiaeth ryngwladol.

Ar ôl pob cyflwyniad, cewch gyfle i ymuno â chlinig un-i-un 25 munud wedi'i deilwra yn ogystal â chwrdd â'r tîm Masnach Ryngwladol i drafod cymorth allforio Llywodraeth Cymru.

Cymorth ar gyfer Allforio, Llywodraeth Cymru

Drwy gydol y dydd gall busnesau Cymru sydd naill ai'n allforio ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn allforio gyfarfod â'r tîm Cysylltiadau Rhyngwladol a fydd yn gallu rhoi trosolwg o'r ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt drwy Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

23 Hydref 2024, 09:00 - 16:00
Conwy Business Centre, Conwy, LL31 9XX

Cost: Am ddim

E-Fasnach – Rhyngwladoli eich Gwefan:  Gweithdy Sgiliau Technegol

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae'n agored i bob busnes yng Nghymru sydd ag uchelgais i ddatblygu’n rhyngwladol. Nid yw’n berthnasol i ganolwyr na chyflenwyr gwasanaethau masnach ryngwladol

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Llywodraeth Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom


07837590633
E-bost | Gwefan