Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae EmpowerCymru yn ôl ar gyfer 2025 — ac mae prif ddigwyddiad Diwydiant Sero Net Cymru yn fwy uchelgeisiol nag erioed.
Agenda:
๐ Sesiwn y Bore: Datblygu’r strategaeth ddiwydiannol fodern
Cewch wybodaeth a gwersi go iawn gan arweinwyr yn y diwydiant a rhanddeiliaid eraill yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ynglลทn â beth mae ‘gwyrdd’ yn ei olygu i Gymru go iawn – gan gynnwys sut gallwn ni ddatblygu ein strategaeth ddiwydiannol ein hunain sy’n ategu cynllun Diwydiant 2035 Llywodraeth y DU, a sut gall diwydiant Cymru gyflawni ei nodau sero net.
๐ฝ๏ธ Cinio rhwydweithio:
Cyfle i gysylltu â chymheiriaid, cyfnewid syniadau, a meithrin partneriaethau gwerthfawr wrth i chi fynd ar daith o amgylch canolfan darganfod gwyddoniaeth Techniquest.
๐ Sesiwn y Prynhawn: Ysgogi Cymru i gyflawni
Mewn cydweithrediad â Sweetmans & Partners, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ‘hacathon bach’ lle byddwn yn helpu i ddatblygu atebion i’r heriau sy’n wynebu diwydiant Cymru gyda’n gilydd.
Ein cwestiwn her ar gyfer 2025 yw:
Sut gallwn ni ysgogi Cymru ymhellach i sicrhau Dyfodol Diwydiannol carbon isel yn gyflym ac ar raddfa fawr, mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol?
Mewn timau o bedwar i bump, byddwch yn datblygu eich cynnig mewn ymateb i’r cwestiwn her, cyn cael cyfle i bleidleisio dros y cysyniad yr hoffech i Diwydiant Sero Net Cymru ei gefnogi a helpu i’w ddatblygu.
Ddim yn siลตr a ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol? Dim problem! Ymunwch â ni am sgwrs ‘gartrefol’ rhwng Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru, Ben Burggraaf; Pennaeth Addysg ac Ymgysylltu Techniquest, Andrea Meyrick; a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol — a fydd yn trafod sut y gallwn annog cenedlaethau’r dyfodol i ymgysylltu â nodau sero net Cymru ac i hyrwyddo pynciau STEM.
Ticiwch flwch isod i gadarnhau pa sesiwn yr hoffech ymuno â hi.
Cewch glywed gan arweinwyr meddwl, gan gynnwys:
Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol, Diwydiant Sero Net Cymru
Michelle T. Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd Byd-eang EY
Rosie Sweetman, Cyfarwyddwr, Sweetmans & Partners
Bydd rhagor o siaradwyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan, o sefydliadau fel KPMG, Vale, Enfinium, Wales & West Utilities, Aldersgate Group a RenewableUK Cymru.
๐ Parcio — Mae Techniquest ym Mae Caerdydd mewn lleoliad cyfleus gyda nifer o feysydd parcio gerllaw, gan gynnwys Cei’r Forforwyn, sydd 85 metr o’r lleoliad. Mae un man parcio hygyrch yn Techniquest (cysylltwch â ni os ydych chi’n dymuno defnyddio hwn) yn ogystal â mannau parcio rhad ac am ddim i ddefnyddwyr anabl ym Maes Parcio Stryd Havannah.
๐ Trafnidiaeth — Mae Gorsaf Drenau Bae Caerdydd 10 munud ar droed o Techniquest.
๐ข Hygyrchedd — Mae amrywiaeth o opsiynau hygyrchedd yn y lleoliad. Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth arbennig arnoch ac fe wnawn ni sicrhau bod hyn ar gael. Mae gan Techniquest hefyd ystafell fach, breifat ar gyfer gweddïo, neu i gael amser ymdawelu os oes angen.
๐ด Anghenion dietegol – Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion dietegol wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad a byddwn yn sicrhau y darperir ar gyfer y rhain.
๐ท Ffotograffiaeth – Yn ystod y digwyddiad, bydd ffotograffydd yn tynnu lluniau a/neu fideos y gellir eu defnyddio at ddibenion marchnata, gan gynnwys eu cyhoeddi ar wefan Diwydiant Sero Net Cymru, cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ddeunydd arall. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n cydsynio i luniau a/neu fideos ohonoch gael eu defnyddio at ddibenion marchnata a hyrwyddo.
We reserve the right to cancel or amend the event at any point up to the stated start time of the session.
Delegates may also cancel their booking at any time by following the link in their confirmation email.
Delegates are responsible for ensuring that they can access the website where the training is delivered and for any all and any charges incurred during attendance at the session.
The delegate acknowledges that all event material, programme material or copies thereof are and will remain the property of the organiser and are subject to copyright.
It is expressly agreed that neither the delegate nor their sponsoring organisation will copy the whole or any part of those materials without the written consent of the organiser.
The organiser accepts no responsibility whatsoever for the subsequent use of the EMS by the delegate or their sponsoring organisation as a result of their participation in the event and shall not be liable for any loss or damage arising to the delegate, their sponsoring organisation or any third parties howsoever that loss or damage arises (save that this provision will not exclude liability for death or personal injury arising from the negligence of the organiser).
No variation to these conditions shall be binding unless agreed in writing between the authorised representatives of the organisation and the delegate and/or their sponsoring organisation. The delegate and their sponsoring organisation acknowledge that these terms and conditions supersede any written or verbal communication.