Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n Harddangosfa Cwrdd â’r Prynwyr sydd ar y gweill, sydd â’r nod o gefnogi BBaCh yng Nghymru i gyrchu a sicrhau cyfleoedd cadwyni cyflenwi.
Arena Abertawe: 10/09/2024
Venue Cymru Llandudno: 02/10/2024
Wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, mae’r Arddangosfeydd hyn yn rhoi cyfle i fynychwyr ymgysylltu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb â phrynwyr blaenllaw o sectorau amrywiol, gan chwilio am fusnesau gyda sgiliau ac arbenigedd penodol yn rhagweithiol.
Byddwn yn darparu rhestr wedi’i churadu o arddangoswyr i fynychwyr cofrestredig, sy’n cynnig cyfleoedd i gyd-fynd â’u busnesau a’u setiau sgiliau. Wedi’u cyflwyno gan dimau yr Economi Sylfaenol, Busnes Cymru a Sell2Wales, mae’r Arddangosfeydd unigryw hyn yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi busnesau lleol.
Gall mynychwyr archwilio cyfleoedd cyfredol o fewn sectorau allweddol fel bwyd, iechyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu a thrafnidiaeth.
Dysgu mwy am y prynwyr a'r arddangoswyr sy’n mynychu, ynghyd â manylion ynglŷn â sgyrsiau seminar gan arweinwyr blaenllaw ym meysydd cyflenwi a chaffael, ewch i ymweld â thudalen we: www.businesswalesexpo.wales/cy/home
Sut i gofrestru
I sicrhau eich lle yn yr Arddangosfa Cwrdd â’r Prynwyr, ewch i’n tudalen gofrestru: www.businesswalesexpo.wales/cy/attendee-registration a chwblhewch y ffurflen gofrestru fer hon. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rydym yn eich annog i archebu cyn gynted â phosibl.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales