[ Neidio i Gynnwys ]

Garddwriaeth: Defnyddiwch ddulliau Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a Strategaethau Chwilio Lleol er mwyn gwneud eich busnes yn fwy gweladwy

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Dyma sesiwn awr o hyd lle cewch ddysgu sut i wneud eich gwefan yn fwy amlwg ymhlith canlyniadau chwilio a sut i wella'ch gwelededd yn lleol trwy ddefnyddio cyfuniad o arferion gorau SEO a strategaethau chwilio lleol. Os mai denu cwsmeriaid lleol yw’r nod, neu os yw’ch bryd ar ehangu ar hyd a lled y wlad, bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddenu mwy o bobl i’ch gwefan ac yn annog mwy o fusnes.

Dyma’r testunau dan sylw a’r amcanion dysgu allweddol:

             Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO): Deall pa strategaethau allweddol allai wella cyrhaeddiad eich gwefan, gan gynnwys ymchwilio geiriau allweddol, optimeiddio tudalennau, a metadata.

             Sylfeini Adeiladu Dolenni: Dysgwch sut y gall creu ôl-ddolenni o safon roi mwy o awdurdod i’ch gwefan a rhoi hwb i'ch safle ymhlith y canlyniadau chwilio.

             Camgymeriadau SEO cyffredin: Osgoi'r peryglon a allai niweidio'ch amlygrwydd ymhlith canlyniadau, a dysgu sut i ddefnyddio offer fel Google Search Console i fonitro ac i optimeiddio eich perfformiad.

             SEO ac Optimeiddio Chwiliadau Lleol: Dysgwch sut i gyfuno SEO â strategaethau chwilio lleol er mwyn sicrhau bod eich busnes yn cyrraedd y gynulleidfa iawn.

Peidiwch â cholli'r cyfle i gymryd yr awenau o ran eich presenoldeb ar-lein a’i gwneud yn haws i gwsmeriaid eich cyrraedd chi.

Er mwyn cymryd rhan yn y weminar yma, mae’n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 5yb ar 4/11/24. Cofrestrwch isod neu ebostiwch horticulture@lantra.co.uk

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau

5 Tachwedd 2024, 09:00 - 10:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan