[ Neidio i Gynnwys ]

Garddwriaeth - Gweminar hylendid ar ôl cynaeafu

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae hylendid a thrin effeithlon ar ôl cynaeafu yn hanfodol, nid yn unig fel mesur i reoli diogelwch bwyd ond hefyd ar gyfer cynnal ansawdd y cynnyrch a gaiff ei gynaeafu yn ogystal â lleihau colledion ar ôl cynaeafu.

Ymunwch â Malcolm Laidlaw wrth iddo eich arwain trwy'r opsiynau, o'r hyn y gellir ei wneud gyda'ch cynnyrch i'w wneud yn 'barod i’w werthu', gyda dulliau arfer gorau sy'n eich helpu i ddewis y prosesau gorau ar gyfer sicrhau bod eich cynnyrch yn ddiogel ac yn cynnal ei ansawdd da.

Yn y cyflwyniad hwn i drin a hylendid cynnyrch ffres ar ôl cynaeafu, bydd Malcolm yn ymdrin â:

·                 Senarios arfer gorau ar ôl cynaeafu: Wedi’u pacio yn y cae, pacio mewn sied, golchi

·                 Ymwybyddiaeth o beryglon sy'n gysylltiedig â thrin ar ôl cynaeafu

·                 Ymwybyddiaeth o alergenau

·                 Egwyddorion sylfaenol "dyluniad adeilad paratoi a phacio" a gofynion hylendid

·                 Gofynion golchi ar gyfer tynnu pridd a chynnyrch parod i'w fwyta.

·                 Fformatau a gofynion pecynnu.

 

I gymryd rhan yn y gweminar, cliciwch ar y ddolen isod i gofrestru eich diddordeb erbyn 5pm ar 12/02/2025. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i BOSS yn gyntaf cyn clicio ar y ddolen hon.

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau

13 Chwefror 2025, 16:00 - 17:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


01982 552 646
E-bost | Gwefan