[ Neidio i Gynnwys ]

Garddwriaeth: Perllannau mewn hinsawdd sy’n newid

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ar ôl Wythnos Hinsawdd Cymru (11-15 Tachwedd), byddwn yn myfyrio ar sut mae newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar berllannau yng Nghymru.

Mae'r heriau hyn yn gofyn am strategaethau addasu megis dewis mathau o goed sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, rhoi systemau rheoli dŵr effeithlon ar waith, a gwella mesurau rheoli plâu a chlefydau.

Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych yn fanwl ar gynllun arloesol, strategaethau rheoli a’r ymchwil flaengar sy'n cael ei gynnal i ddiogelu perllannau ar gyfer y dyfodol yn erbyn yr heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Mae Joey Hughes o Merched y Berllan (Orchard Daughters) ym Machynlleth, yn arbenigwr enwog ym mhob agwedd o ofal perllan. Bydd trafodaeth Joey yn taflu goleuni ar yr arferion cynaliadwy gan sicrhau gwytnwch a chynhyrchiant perllannau am genedlaethau i ddod.

Prif Amcanion Dysgu:

·            Amseru’r tymhorau tyfu i ystyried newid mewn tymheredd

·            Rheoli pwysau plâu a chlefydau ychwanegol

·            Cynllunio a rhoi systemau ar waith ar gyfer tywydd andwyol, gan gynnwys cyfnodau sych a glaw trwm.

·            Dewis y coed cywir ar gyfer tyfu'n llwyddiannus mewn rhanbarthau parthau hinsawdd sy'n symud.

Dyddiadau

18 Tachwedd 2024, 16:00 - 17:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


01982552646
E-bost | Gwefan