Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Cost: Am ddim
Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Hwb Dyfodol
Croesawu pobl o bob cwr o Gymru i feddwl yn greadigol am rym a phosibilrwydd y dyfodol.
• Dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
• Dewch i gymryd rhan mewn Gweithdy Dylunio'r Dyfodol Japaneaidd a thechnegau chwareus eraill ar gyfer dychmygu'r dyfodol.
• Cyfraniadau gan y Prif Weinidog Eluned Morgan.
• Yn cynnwys rhwydweithio a chinio.
Dylunio'r Dyfodol – model Japaneaidd o feddwl am y dyfodol*
Prin ein bod yn sylweddoli, ond rydym yn dylunio'r dyfodol bob dydd, gyda phob penderfyniad a wnawn. Er mwyn gwneud penderfyniadau da ar gyfer cenedlaethau lluosog, mae angen i ni ganolbwyntio ar y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Rydym am roi amser i chi wneud hyn. Amser i fod gydag eraill, i feddwl am yr hyn sydd bwysicaf am y dyfodol a dechrau ei ddylunio o safbwynt newydd.
Bydd hwn yn weithdy ymarferol gyda chyflwyniad byr, anerchiad gan y Prif Weinidog a digon o gyfle yn y gweithdy i siarad, dysgu a phrofi gwahanol dechnegau chwareus ar gyfer dychmygu'r dyfodol.
‘Future Generations are not just abstract concepts. We are engaging in a dialogue with them every day of our lives by the choices we make now.’ Michael Sheen
*Japan’s movement of Future Design councils | FDSD
Rhan o FutureGen10 – cydweithrediad aml-bartner i nodi 10 mlynedd ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Dyma un o gyfres o ddigwyddiadau i nodi 10 mlynedd ers sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Cydgysylltwyr Datblygu Cynaliadwy Cymru a Mwy, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Gofod3).
Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gwahanol fathau o ddigwyddiadau i’n helpu yn ein gwaith. Beth bynnag yw diben y digwyddiad, bydd angen inni gael eich data personol os byddwch yn ei fynychu. Bydd hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt, eich sefydliad, a’ch gofynion dietegol. Hefyd, os yw’r trefniadau parcio’n cael eu rheoli yn y lleoliad, bydd angen rhif cofrestru’ch car. Byddwn yn defnyddio’ch manylion cyswllt i anfon gwybodaeth ichi ynglŷn â mynychu’r digwyddiad, ac mae’n bosibl yr anfonwn wybodaeth ichi am y digwyddiad ar ôl iddo gael ei gynnal. Mewn rhai achosion, rydym yn defnyddio trydydd parti i drefnu ein digwyddiadau, ac mae ein contractau yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel. Os bydd angen ichi ddod at y dderbynfa mewn lleoliad, byddwn yn rhoi rhestr i’r dderbynfa o bawb sy’n mynychu’r digwyddiad, ynghyd â rhifau cofrestru eu ceir lle bo hynny’n berthnasol.
Os mai yn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru y mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal, mae gwybodaeth ar gael yn yr adran sy’n sôn am ymweld â swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
Ni fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol am fwy na blwyddyn ar ôl unrhyw ddigwyddiad a fynychir gennych. Os byddwn am ddefnyddio’ch data personol am unrhyw reswm heblaw er mwyn trefnu’r digwyddiad, byddwn yn gofyn ichi yn ystod y broses archebu.
I gael gwybod rhagor am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru a’r defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
CSI
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales