Gwasanaethau Gofal Ychwanegol Penarth – Sesiwn Busnes Cymru
Trosolwg
Cost: Am ddim
Gweithdai tendro byw a gefnogir gan Busnes Cymru ar gyfer y fframwaith canlynol.
Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer darparu Gwasanaethau Gofal Ychwanegol ym Mhenarth
Beth fydd cynnwys y cwrs?
Cinio a Dysgu: Cefnogi darpar gyflenwyr i gofrestru ar y pyrth caffael perthnasol, gan gynnwys GwerthwchiGymru (Sell2Wales), y Platfform Digidol Canolog (CDP) a Proactis, ynghyd ag awgrymiadau a thechnegau tendro.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Cofrestru a diweddaru manylion cyflenwyr ar GwerthwchiGymru (Sell2Wales).
- Cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog (CDP) a chael Dynodydd Cyflenwr Unigryw (Unique Supplier ID) lle bo hynny'n berthnasol.
- Cyrchu a dod o hyd i'r cyfle tendro drwy Proactis.
- Llywio porth Proactis a deall trefniant y dogfennau caffael.
- Awgrymiadau ar gyfer osgoi camgymeriadau tendro cyffredin a sicrhau bod cyflwyniadau'n cydymffurfio â'r gofynion.
- Sut i gyflwyno cwestiynau eglurhad drwy'r porth a chael mynediad at yr ymatebion a ddarperir i bob cyflenwr.
- Gwybodaeth am y cymorth ychwanegol sydd ar gael gan Busnes Cymru drwy gydol cyfnod y tendr.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfleoedd i gyflenwyr ofyn cwestiynau a derbyn cymorth ymarferol i'w helpu i symud ymlaen yn hyderus drwy'r broses dendro a chyflwyno ymateb tendr sy'n cydymffurfio â'r gofynion.
Bydd y sesiwn hefyd yn darparu canllawiau gweithredol manwl ar sut i gael mynediad at y broses gyflwyno tendrau a'i chwblhau.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i gefnogi darparwyr a sefydliadau a allai fod yn newydd i gaffael yn y sector cyhoeddus, gan eu helpu i ddeall gofynion y tendr a gwneud y mwyaf o'u gallu i gyflwyno ymateb sy'n cydymffurfio â'r gofynion
Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Amodau arbennig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales