Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae’r sesiwn ymarferol hon yn symleiddio Hanfodion Seiber ar gyfer Busnesau Newydd, drwy ddadansoddi’r broses ardystio a'i phum mesur rheoli technegol. Bydd cyfranogwyr yn ystyried sut i ddefnyddio waliau tân, ffurfweddu diogel, rheoli mynediad defnyddwyr, amddiffyn rhag maleiswedd, a rheoli diweddariadau diogelwch i amddiffyn rhag bygythiadau seiber cyffredin. Byddwn yn eich arwain drwy’r daith gyfan, o gwblhau’r holiadur hunanasesu i gyflawni ardystiad swyddogol. Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd gennych fap ffordd clir, y gallwch ei roi ar waith i ddiogelu data eich sefydliad ac i arddangos eich ymrwymiad i ddiogelwch seiber.
Bio’r Cyflwynydd –
Mae Huw yn gyfarwyddwr corff ardystio Hanfodion Seiber wedi’i gymeradwyo, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru. Roedd ymhlith y cyntaf yn y DU i dderbyn achrediad fel Cynghorydd Hanfodion Seiber gyda’r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol, ac mae’n gallu cyflwyno’r gweithdy Hanfodion Seiber a Hanfodion Seiber+ drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom