[ Neidio i Gynnwys ]

Gweithdy i ddarparwyr gofal preifat ar y darpariaethau dileu elw sydd yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Trosolwg

Cost: Am ddim

Gweithdy i ddarparwyr cartrefi gofal plant preifat a darparwyr gofal maeth i drafod y darpariaethau dileu elw sydd yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Bydd y gweithdy yn gwneud y canlynol:

 

  • rhoi diweddariad i ddarparwyr preifat ar yr elfennau allweddol yn y ddeddfwriaeth derfynol, a'r amserlenni gweithredu arfaethedig
  • rhoi cyfle i ddarparwyr preifat ofyn unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol i swyddogion (bydd swyddogion polisi a gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn bresennol, ochr yn ochr â swyddogion Arolygiaeth Gofal Cymru)
  • rhoi cyfle i ddarparwyr preifat roi adborth i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, gan nodi meysydd lle mae angen eglurder a chefnogaeth ychwanegol

darperir cinio a lluniaeth

Dyddiadau a lleoliadau

1 Ebrill 2025, 13:00 - 16:00
Canolfan Catrin Finch, Rhosddu, LL11 2AW

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

11 Ebrill 2025, 09:30 - 12:30
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru - Parc Cathays, Cardiff, CF10 3NQ

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Hysbysiad Preifatrwydd  

Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, ac fe fyddwn yn ei phrosesu i gyflawni ein tasg gyhoeddus yn unol â'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni i weinyddu'r digwyddiad. Byddwn yn cadw'ch data personol am 3 mis ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, ac yna byddwn yn eu dinistrio'n ddiogel.  

Er mwyn anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu manylion personol gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, teitl swydd, dewis iaith, enw ysgol/lleoliad/sefydliad, cyfeiriad ysgol/lleoliad/sefydliad, rhif ffôn ac Awdurdod Lleol. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â gofynion mynediad neu ddietegol a/neu ofynion eraill i sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu bodloni yn ystod y digwyddiad.  

Er mwyn rhwydweithio yn ystod y digwyddiad, bydd eich enw yn cael ei rannu ag eraill sydd wedi cofrestru i fod yn bresennol. Os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hyn, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:  

  • i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi  

  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny  

  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data  

  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’  

  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data  

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:  

Customer Contact  

Wycliffe House  

Water Lane  

Wilmslow  

Swydd Gaer SK9 5AF  

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113  

Gwefan: www.ico.gov.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â:  

Swyddog Diogelu Data  

Llywodraeth Cymru  

Parc Cathays  

Caerdydd  

CF10 3NQ  

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru  

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir gennych yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r digwyddiadau hyn, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

HSCEY
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan