Gweithdy Rithwir CITB & GwerthwchiGymru
Trosolwg
Cost: Am ddim
Mae Busnes Cymru – GwerthwchiGymru yn falch o gefnogi'r CITB i gyflwyno'r Cyflwyniad hwn i Ddyfynbrisiau Cyflym , Cymorth Busnes Cymru i Fusnesau Bach a Chanolig a gweithdy Cynhyrchion, Grantiau a Chyllid CITB
Ymunwch â ni i ddarganfod sut mae CITB yn cefnogi'r diwydiant a pha gynnyrch, grantiau a chyllid sydd ar gael i'ch busnes.
Agenda
Croeso a Chyflwyniad -CITB
Cyfle i ddysgu mwy am Ddyfynbrisiau Cyflym, cyfleuster dyfynbris ar-lein GwerthwchiGymru sy'n caniatáu i brynwyr gael dyfynbrisiau cystadleuol yn electronig.
Cymorth Busnes Cymru
Dyma rai o fanteision defnyddio Dyfynbrisiau Cyflym:
• derbyn neu wrthod cyfleoedd Dyfynbris Cyflym yn hawdd
• ymateb gyda dyfyniadau cystadleuol am gyfleoedd gwerth isel
• defnyddio'r Blwch Post Dyfynbris Cyflym i ymateb yn hawdd ar-lein
• defnyddio eich Proffil Cyhoeddus GwerthwchiGymru i gynyddu eich siawns o gael eich gwahodd i Ddyfynbris Cyflym
• gall prynwyr nawr ddod o hyd i'ch cwmni'n hawdd drwy offeryn chwilio Cyflenwr GwerthwchiGymru
• rheoli a chadw golwg ar eich cynnydd Dyfynbris Cyflym gan ddefnyddio eich panel rheoli GwerthwchiGymru
Beth yw GwerthwchiGymru?
Mae gwefan GwerthwchiGymru.llyw.cymru a reolir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu amgylchedd di-dâl a diogel ar gyfer hysbysebu cyfleoedd contract a thendro.
Bob blwyddyn, caiff cyfleoedd contract gwerth dros 6,300,000,000 o bunnoedd ar gyfartaledd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus eu hysbysebu drwy'r safle hwn.
Mae tua 80% yn gyfleoedd llai, felly mae yna gontractau ar gyfer busnesau o bob math a maint.
Ein nod yw helpu:
- prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro
- busnesau'n hyrwyddo eu gwasanaethau
- busnesau'n dod o hyd i gyfleoedd contract
Mae'r safle hwn yn cynnig i chi:
· system symlach i ddod o hyd i gyfleoedd i dendro
· cofrestru am ddim gan ganiatáu defnydd llawn o offer i'ch helpu i chwilio am gyfleoedd i dendro
· mynediad at wasanaethau caffael mewn un lle
· y cyfleuster i hysbysebu tendrau ac i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus
· hysbysiadau e-bost i gyflenwyr am y cyfleoedd busnes diweddaraf
· gwybodaeth am gontract a chaffael am ddim
· astudiaethau achos o ddefnyddwyr GwerthwchiGymru
· y cyfle i chwilio'r newyddion a'r digwyddiadau caffael diweddaraf
cyfathrebu haws rhwng prynwyr a chyflenwyr
Dyddiadau
Amodau arbennig
Digwyddiad rhithwir – archebu'n hanfodol
Wrth archebu sesiwn 1-i-1, nodwch y bydd gweithdai 1 i 9 yn ymdrin â'r un wybodaeth.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom