[ Neidio i Gynnwys ]

Gweithdy Seiber: A ydych wedi paratoi? (Cynhwysol ac ar agor i bob busnes)

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

 

Ymunwch â’r Hyb Arloesedd Seiber i gymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol yn ymwneud â digwyddiadau seiber. Hefyd, bydd Busnes Cymru yn rhoi trosolwg byr o’r cymorth busnes sydd ar gael i BBaCh, gan eich helpu i ddeall sut i gael gafael ar ganllawiau ac adnoddau i wella eich gwydnwch.

 

Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bawb ac estynnir croeso i bawb. Anogir busnesau cynhwysol i gymryd rhan, gan sicrhau yr adlewyrchir safbwyntiau a phrofiadau amrywiol mewn trafodaethau ynghylch seiberwydnwch.

 

Beth fydd cynnwys y cwrs?

 

  •          Senario ymosodiad seiber
  •         Rolau a chyfrifoldebau timau arwain a thimau technegol
  •         Gwybod sut y mae gwahanol adrannau’n dibynnu ar ei gilydd yn ystod digwyddiad seiber
  •         Rheoli rhwymedigaethau cyfreithiol a gofynion cydymffurfio
  •         Sicrhau ffyrdd clir o gyfathrebu’n effeithiol – oddi mewn i’r busnes a hefyd gyda phobl y tu allan i’r busnes
  •         Sut i wneud penderfyniadau amser real dan bwysau
  •         Delio â heriau annisgwyl wrth i’r sefyllfa esblygu

 

 

Bydd hyn yn atgynhyrchu amodau’r byd go iawn – pan fyddwch yn credu bod pethau dan reolaeth, bydd problemau newydd yn codi, gan brofi eich ymateb a’ch gwydnwch.

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

 

Ni fyddwch angen unrhyw arbenigedd technegol uwch – dim ond parodrwydd i gydweithredu ac ymgysylltu.

 

Rheolwyr ac arweinwyr busnes

 

BBaCh

 

Timau cydymffurfio a chyfreithiol

 

Staff gweithrediadau a chyfathrebu

 

Gweithwyr proffesiynol mewn meysydd TG a seiberddiogelwch

 

BBaCh, busnesau cymunedol ac elusennau lleol yng Nghasnewydd

 

 

BBaCh o Gymru. Uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul busnes - yn amodol ar Gofrestru'n Llwyddiannus â Busnes Cymru.
 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

15 Gorffennaf 2026, 09:30 - 12:30
Cardiff City Stadium, Cardiff, CF11 8AZ

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan