Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner yn cynnal gweithdy ar-lein sy'n canolbwyntio ar yr ymateb i gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Mae'n gydweithrediad gyda nifer o asiantaethau partner i:
Bydd y gweithdy'n cynnwys trafodaeth a chyflwyniadau gan unigolion o'r sefydliadau canlynol: Gweithredu dros Blant, The Children's Society, CASCADE, Canolfan Gwrth-fasnachu Genedlaethol Barnardo’s, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol TARIAN a Llywodraeth Cymru.
Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at staff a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n ymwneud yn broffesiynol â chamfanteisio troseddol ar blant.
There are no spaces left on this event but you can add yourself to the reserve list.
Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd, ac rydym eisiau sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r ffordd y gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.
Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru fel a ganlyn:
Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi ar gyfer digwyddiadau / cyfarfodydd yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy ein cyfeiriad e-bost GwaithTeg@llyw.cymru.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych yng nghyswllt y "Gweithdy: Ymateb i Gamfanteisio Troseddol ar Blant yng Nghymru". Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u prosesu?
Ar gyfer y digwyddiad hwn byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
Mae'r wybodaeth a roddir o dan ofynion hygyrchedd yn ddewisol, yn cael ei phrosesu trwy ganiatâd a bydd yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad.
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Bydd data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel yn y DU. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y digwyddiad hwn a dim ond y staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r digwyddiad sydd â mynediad ati.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod achos o dorri rheolau diogelwch data wedi codi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data personol gyda'r sefydliadau canlynol:
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 6 mis wedi'r digwyddiad ac ar ôl hynny byddant yn cael eu dinistrio'n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â GwaithTeg@llyw.cymru.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost : SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swydfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales