Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Mae clefydau rhewfryn yn glefydau gwastraffu cronig sy’n gallu bod yn anodd eu canfod mewn defaid gan nad yw’r rhan fwyaf o anifeiliaid heintiedig yn dangos unrhyw symptomau. Gall anifeiliaid sy'n dangos symptomau gael ychydig o symptomau sy'n anodd eu gwahaniaethu neu ymddangos yn hwyr yn y broses afiechyd.
Mae cyflyrau heintus sy’n cael eu dosbarthu fel ‘clefydau rhewfryn’ yn cynnwys clefyd y Ffin, Lymphadentis Achosol (CLA), clefyd Johne’s, Maedi Visna (MV) ac Adenocarsinoma Ysgyfaint y Derfaint (OPA) ac er gwaethaf eu harwyddocâd cynyddol mae llawer o ffermwyr defaid yn parhau i fod yn gwbl anymwybodol o’r effaith wirioneddol gallant ei gael ar ddiadelloedd defaid.
Mae Phillipa Page, milfeddyg o FlockHealth Ltd wedi bod yn gweithio gydag aelodau grŵp trafod Cyswllt Ffermio i gasglu data perfformiad corfforol a chynnal sgrinio ar gyfer MV, Johne’s, CLA a llyngyr yr iau. Ymunwch â'r weminar i glywed gan Phillipa Page a'r ffermwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect a fydd yn rhannu canfyddiadau'r prosiect a'u profiadau.
Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Menna Williams: menna.williams@mentera.cymru / 07399849148
*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*
Cofrestru ac ymuno â gweminarau Cyswllt Ffermio - Dyma ganllaw sy'n nodi'n glir y camau y mae angen i chi eu cymryd i gael mynediad at BOSS a'n gweminarau ar-lein
Telerau Busnes
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.
Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.
Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales