GWEMINAR CYCHWYN BUSNES
Trosolwg
Cost: Am ddim
Cychwyn Busnes - Rhan 1.
Dysgwch am bob agwedd o gychwyn busnes:
· Creu eich Cynllun Busnes a'ch rhagolwg llif arian (Darperir templedi).
· Eich statws cyfreithiol (e.e. Masnachwr unigol).
· Trafod gofynion Treth, Cyllid a Thollau EM, Talu-wrth-ennill (PAYE) a sut i ddefnyddio polisïau a chynnwys Termau ac Amodau i ychwanegu gwerth i'ch busnes.
· Deall sut i brisio am elw a sut i reoli eich cyllid wrth i chi dyfu.
· Trafod cyfleoedd ariannu.
Rhan 2 - Marchnata Busnes
- Deall pwysigrwydd ymchwil i'r farchnad a sut i fynd ati i gyflawni'r ymchwil yn effeithiol;
- Adnabod cwsmeriaid targed a chystadleuwyr;
- Deall sut i gyrraedd eich cwsmeriaid targed;
- Deall beth yw marchnata a'i bwysigrwydd;
- Ystyried troi amcanion busnes yn rhai marchnata;
- Mesur ac adolygu effeithiolrwydd eich dulliau marchnata.
I archebu eich lle ar y Gweminarau yma, ffoniwch swyddfa Busnes Cymru ar 01745 585025
Dyddiadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom