[ Neidio i Gynnwys ]

Gweminar marchnata Croeso Cymru, yn cynnwys gweithgaredd ymgyrch Blwyddyn Croeso

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae Croeso Cymru yn cynnal sesiwn ar-lein i rannu ein cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 a'n hymgyrch farchnata newydd flaenllaw i Gymru.  

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal drwy Microsoft Teams ar 17 Hydref 2024 rhwng 2:00 pm a 3.30 pm.

Byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer ymgyrch 2025, a fydd yn cael eu cyflawni o dan ymbarél y flwyddyn thematig. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:

  • Gweithgaredd marchnata diweddar a chyfredol
  • Gweithgaredd y diwydiant teithio
  • Gwefan newydd i'r Diwydiant
  • Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr. 

Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n mynychu, gan gynnwys dadansoddiad o fathau o gynulleidfaoedd ar gyfer blwyddyn thematig 2025.

I ymuno â ni, archebwch eich lle erbyn 4:00 pm 14 Hydref. Caiff dolen i ymuno yn y cyfarfod ei hanfon cyn y digwyddiad at bawb fydd yn cymryd rhan .

Dyddiad:        Dydd Iau 17 Hydref 2024
Amseriadau:  2:00 pm – 3:30 pm
Tocynnau:      Am ddim 

Caiff dolen i ymuno yn y cyfarfod ei hanfon cyn y digwyddiad at bawb fydd yn cymryd rhan.

Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru.  

Dyddiadau

17 Hydref 2024, 14:00 - 15:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Sylwer, bydd y cyfarfod hwn yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gweld ar wefan diwydiant twristiaeth Llywodraeth Cymru. 

Hysbysiad Preifatrwydd - Gweminar Croeso Cymru - Recordiad Microsoft Teams | Drupal (llyw.cymru)

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

Croeso Cymru
Welsh Government/Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction/Cyffordd Llandudno
Conwy
L31 9RZ
United Kingdom


0300 061 5552
E-bost | Gwefan