[ Neidio i Gynnwys ]

Gweminar sut i Ysgrifennu Tendr Llwyddiannus fel Busnes Newydd

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae’r cwrs lefel dechreuwr hwn wedi ei lunio i helpu pobl i ysgrifennu ymatebion tendr clir, sydd wedi'u strwythuro’n dda ac sy’n sgorio’n dda. Mae’n rhoi pwyslais ar ddeall beth mae prynwyr yn chwilio amdano, sut mae gwerthuswyr yn asesu tendrau, a sut i ateb cwestiynau'n glir a chryno. Bydd cyfranogwyr yn dysgu dull syml, ymarferol o strwythuro ymatebion, gan deilwra atebion i’r cleient, ac ysgrifennu mewn ffordd sy’n hawdd i'w darllen ac yn hawdd i'w sgorio. Drwy fynychu'r cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

Deall yn union beth mae prynwyr yn chwilio amdano

Deall sut mae gwerthuswyr yn asesu ymatebion tendr ac yn dyfarnu marciau

Gwybod sut i strwythuro ymatebion sy’n hawdd i'w darllen ac yn hawdd i'w sgorio

Ateb cwestiynau tendro yn glir, yn llawn, ac yn hyderus

Ysgrifennu ymatebion cryno, penodol a pherthnasol

Bio’r Cyflwynydd - Laura Danter

Sefydlais Tender Coach i gefnogi busnesau sydd eisiau teimlo’n fwy abl a hyderus wrth dendro. Rwy’n gweithio gyda busnesau sy’n gwybod eu bod yn dda yn eu gwaith, ond sy’n ei chael hi'n anodd trosi hynny’n ymatebion tendr clir a chadarn. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad ymarferol mewn rheoli cynigion a thendrau, rwyf wedi gweld pa mor llethol all y broses deimlo, ond rwyf hefyd wedi gweld bod pethau'n dod yn llawer haws gyda’r strwythur, yr arweiniad a’r ddealltwriaeth gywir. Rwyf wedi gweithio â thimau cynnig o bob maint, o grwpiau bach, clòs i dimau rhyngwladol mawr, gan ymdrin â phopeth o gyflwyniadau e-bost cyflym i dendrau cymhleth sy’n cael eu danfon mewn crât. Gall y cynigion amrywio, ond yr un pethau sylfaenol sy'n bwysig bob amser; eglurder, cydymffurfiaeth, a chynnwys sy’n hawdd i'w ddarllen ac yn hawdd i'w sgorio. Fy mwriad yw eich helpu chi i ddeall y broses, meithrin arferion gwell, a datblygu sgiliau y bydd gennych chi am byth. Drwy hyfforddiant ymarferol a mentora un-i-un, rwy’n cefnogi timau i wella sut maent yn mynd i'r afael â thendrau mewn ffordd sy’n teimlo’n realistig a hydrin.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru

Dyddiadau

13 Mai 2026, 09:30 - 11:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan