Gwerthu Ar-lein (E-Fasnach) - Lefel Uwch- SFBW (Gweminar)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Os ydych wedi bod yn gwerthu ar-lein ers sbel ac eisiau mynd â'ch busnes E-Fasnach i'r lefel nesaf, ymunwch â ni am gwrs ar-lein am ddim. Dysgwch sut i reoli'ch stoc, eich cwsmeriaid a'ch data yn effeithiol fel y gallwch werthu mwy a chreu arian parod.
Byddwn yn trafod:
Byddwn yn trafod:
- Sut i reoli stocrestr yn fwy effeithlon
- Sut i osod a defnyddio codau SKU
- Sut i gael codau bar ar gyfer eich cynhyrchion newydd
- Pryd i weithio gyda gwasanaeth cyflawni - Sut i reoli'ch cwsmeriaid
- Cychwyn arni gyda dadansoddeg uwch
- Defnyddio data dadansoddeg i ychwanegu gwerth ac i gynyddu gwerthiant
Beth fyddwn ni'n ei ddarparu?
- Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
- Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
- Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom