[ Neidio i Gynnwys ]

Iechyd Anifeiliaid – Pwysigrwydd Maeth mewn Defaid

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ymunwch â Fiona Lovatt neu Phillipa Page, Flock Health Ltd a Cyswllt Ffermio i
drafod:

  • Anghenion maeth mamogiaid cyfeb o’r cyfnod paru hyd at wyna.
  • Pwysigrwydd cael y cydbwysedd cywir o ran maeth wrth ystyried cyflwr corff y
    mamogiaid, gofynion yr ŵyn ac ystyriaethau ymarferol y fferm.
  • Sut allwn ni ddefnyddio dadansoddiad o borthiant i arbed costau wrth ystyried
    manteision cost gwahanol opsiynau: cnydau porthiant, bwyd mewn bagiau,
    tybiau neu flociau.


Dyma gyfle i ystyried gwahanol opsiynau ac i gael atebion i’ch cwestiynau gan filfeddygon defaid arbenigol sydd wedi gweithio ar ddognau i famogiaid cyfeb ar gyfer diadelloedd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Er mwyn archebu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn, cofrestrwch isod neu ffonio 03456 000 813 erbyn 3yp diwrnod cyn y digwiddiad.

*Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau a lleoliadau

6 Rhagfyr 2023, 19:30 - 21:30
Clwb Rygbi Dolgellau, Dolgellau, LL40 1UU

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

12 Rhagfyr 2023, 19:30 - 21:30
Clwb Rygbi Crymych, Pros Kairon, Crymych, SA41 3QE

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 08456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan