[ Neidio i Gynnwys ]

Lluosogi di fawn – Planhigion Gardd Hardys Cottage

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Gyda lluosogi planhigion wedi’i nodi fel un o’r meysydd mwyaf heriol ar gyfer tyfu di fawn, ymunwch â ni ar gyfer y diwrnod hyfforddiant yn Hardy’s Cottage Garden Plants, maen nhw’n cael eu cydnabod fel un o feithrinfeydd mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer planhigion lluosflwydd llysieuol a dyfir yn ddi fawn.

Yn feithrinfa deuluol fach ac annibynnol, maent yn cadw dros 1,200 o fathau o blanhigion, gan gynnwys llawer o rywogaethau prin a chyffrous. Mae eu harddangosfeydd blodau wedi ennill 24 medal aur yn RHS Chelsea. Maent hefyd yn parhau i ennill medalau aur RHS mewn sioeau RHS eraill fel RHS Hampton Court Palace Garden Festival. Wedi'i sefydlu ym 1988 gan Rosy Hardy yn ei gardd gefn, mae Hardy's bellach ar safle 13 erw bwrpasol yn y Test Valley, Hampshire. Yn 2020 dyfarnwyd statws Meistr Tyfwr RHS i ni.

Trosolwg o'r ymweliad

-          Taith o amgylch ein cyfleusterau lluosogi a meithrinfa

-          Gweithdy lluosogi ymarferol di fawn

-          Cyfle i ofyn cwestiynau gan arbenigwr mewn lluosogi di fawn a phlanhigion lluosflwydd llysieuol.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd yr ymweliad, byddwch yn:

-          Deall y dulliau o luosogi di fawn ar gyfer planhigion lluosflwydd llysieuol gan ddefnyddio toriadau blaen, basal a thoriadau o’r gwreiddiau.

-          Wedi datblygu sgiliau ymarferol mewn lluosogi planhigion lluosflwydd llysieuol

-          Bod yn ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â lluosogi a thyfu di fawn.

Deall sut i liniaru'r heriau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu yn ddi fawn.

Er mwyn mynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch isod erbyn 5yp ar 22/9/22 neu cysylltwch â horticulture@lantra.co.uk

  *Sicrhewch eich bod yn cwblhau pob cam yn y broses o 1 i 4 er mwyn archebu eich lle. Byddwch yn gweld neges “Diolch” unwaith y bydd pob cam wedi’i gwblhau.*

Dyddiadau a lleoliadau

24 Medi 2024, 10:30 - 16:00
Hardys Cottage Garden Pants, Whitchurch, RG28 7FA

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Termau

Telerau Busnes

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Cyswllt Ffermio ac yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol (GDPR), mae hysbysiad preifatrwydd digwyddiadau yn rhoi gwybod i chi pam ein bod yn casglu, defnyddio a phrosesu eich gwybodaeth a phwy fydd yn cael mynediad iddi. Drwy archebu lle ar gwrs neu ddigwyddiad Cyswllt Ffermio, rydych yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

Drwy drefnu lle yn un o ddigwyddiadau/cyrsiau Cyswllt Ffermio neu Lywodraeth Cymru, rydych yn derbyn telerau ac amodau cyffredinol defnyddio gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn Hysbysiad Prosesu Teg Cyswllt Ffermio.
Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth, holi eich barn a'n helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae'n debygol y bydd gan wefannau rydym yn rhoi dolen iddynt Delerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni. Peidiwch â thybio bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Mae cynrychiolwyr yn cydnabod bod deunyddiau cyrsiau a rhaglenni neu gopïau ohonynt yn eiddo i ddarparwyr hyfforddiant ac y gallant fod yn destun hawlfraint. Cytunir na fydd cynrychiolydd na'i gorff noddi yn copïo'r deunyddiau hynny, yn llawn neu'n rhannol, heb gael caniatâd ysgrifenedig darparwr yr hyfforddiant.
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio amser y sesiynau hyn unrhyw bryd hyd at amser dechrau'r sesiwn; rhoddir gwybodaeth unigol am bob cwrs.
Gall cynrychiolwyr hefyd ganslo eu lle unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost a gawsant fel cadarnhad neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00 ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyswllt Ffermio, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ni ar 03456 000 813.
Mae'r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan Gyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat. Nid ydym yn gyfrifol am wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a allai ddigwydd pe baech yn gweithredu ar yr wybodaeth honno.

Trefnydd y digwyddiad

Farming Connect
Farming Connect
Unit 3, Science Park
Aberystwyth
SY23 3AH
United Kingdom: Wales


03456 000 813
E-bost | Gwefan