[ Neidio i Gynnwys ]

Llwyfan Dysgu Digidol Hwb i Gymru - Ymgysylltu Cynnar â'r Farchnad

Trosolwg

Cost: Am ddim

Yn dilyn cyhoeddi'r hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw ( Hwb Education Platform for Wales - Canfod Tendr ) i gyfleu bwriad Llywodraeth Cymru i ail-gaffael y Llwyfan dysgu digidol i Gymru (Hwb), hoffai tîm Hwb eich gwahodd i glywed mwy am y llwybr i'r farchnad, ein defnyddwyr a'n gofynion lefel uchel ar gyfer y contract newydd. Mae Hwb yn rhoi mynediad at gynnwys, adnoddau ac offer a gwasanaethau digidol dwyieithog ym maes addysg ar gyfer ysgolion a gynhelir ledled Cymru.  

Rydym yn croesawu unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad a byddwn yn ceisio ymateb iddynt yn ysgrifenedig. Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn ystod y digwyddiad ar gyfer unrhyw gwestiynau eraill a allai godi. Bydd copi o'r holl gwestiynau a godir ynghyd â'r sleidiau yn cael eu dosbarthu i'r holl gyfranogwyr ar ôl y digwyddiad.  

Gofynnwn ichi hefyd gadarnhau beth yw eich dewis iaith o ran y Gymraeg/Saesneg.  

Dyddiadau

24 Mawrth 2025, 13:30 - 15:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Termau

Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Trefnydd y digwyddiad

CSI
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan