[ Neidio i Gynnwys ]

M-SParc | Cyflymydd AI​: Sero i Seren mewn 48 awr

Trosolwg

Cost: Am ddim

Cyflymydd AI 2 ddiwrnod, wyneb yn wyneb ar gyfer busnesau bach a canolig Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Iau 1af Hydref > dydd Gwener 2il Hydref 2026 yn M-SParc (Parc Gwyddoniaeth Menai), Ynys Môn.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer BBaChau Cymru sydd am symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth AI a gadael gydag ateb AI ymarferol a gweithredol, a chynllun gweithredu ar gyfer eu busnes eu hunain. 

Dros ddau ddiwrnod dwys, fyddwch chi ddim yn dysgu am AI yn unig byddwch chi'n gadael gyda theclyn AI gweithredol, wedi'i osod yn gywir ac yn barod i'w ddefnyddio yn eich busnes eich hun.

Ble Cynhelir y Digwyddiad?

Cynhelir y digwyddiad yn M-SParc. Mae M-SParc yn ganolfan wyddoniaeth ac arloesedd yn Gaerwen, sy'n hawdd ei gyrraedd mewn car, bws, beic a thrên.

LL60 6AG

Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu popeth sy'n ymwneud ag AI, gan gynnwys: 

Sesiwn 1: Beth, Pam, Sut?

•                     Darganfod beth yw AI

•                     Pam y dylai fod yn bwysig i'ch busnes

•                     Deall a chymharu offer AI poblogaidd ar waith, gan gynnwys opsiynau taledig yn erbyn opsiynau am ddim

•                     Gweld sut y gallai eich busnes ddefnyddio AI i wella cynhyrchiant ac arloesedd.

Canlyniad: Dealltwriaeth o hanfodion AI a'r hyn y byddem yn ei alw'n "Tirwedd AI".

Sesiwn 2: Gan Bwyll!

•                     Deall sut i ddefnyddio AI yn ddiogel ac yn gyfrifol o fewn eich busnes

•                     Dysgu am breifatrwydd data, ystyriaethau GDPR, moeseg a'r hyn na ddylech byth ei wneud wrth ddefnyddio offer AI

•                     Deall pam mae ymddiriedaeth, tryloywder ac arferion AI cyfrifol yn hanfodol ar gyfer mabwysiadu AI yn llwyddiannus

Canlyniad: Dealltwriaeth ar sut i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Pwysigrwydd diogelu data eich busnes, Ystyriaethau allweddol sydd eu hangen i feithrin ymddiriedaeth a hyder wrth fabwysiadu AI.

Sesiwn 3: Gweithio'n Glyfrach (nid yn galetach!)

•                     Nodi ble mae amser, ymdrech a chynhyrchiant yn cael eu golli o fewn eich busnes.

•                     Mapio tasgau ailadroddus, aneffeithlonrwydd a chyfleoedd i weithio'n gallach

•                     Creu map sy'n amlygu ble y gall AI ychwanegu gwerth yn y dyfodol

Canlyniad: Dealltwriaeth o sut i nodi heriau cynhyrchiant o fewn eich busnes, mapio cyfleoedd ar gyfer gwelliant, a chydnabod ble y gallai AI gefnogi effeithlonrwydd yn y dyfodol.

Sesiwn 4: Eich Busnes DA

•                     Nodi eich heriau busnes eich hun a ble y gallai AI helpu i arbed amser, gwella cynhyrchiant a gweithio'n gallach

•                     Archwilio pa offer AI neu "bots" allai gefnogi eich anghenion busnes penodol

•                     Profi sut y gellir defnyddio AI yn ymarferol i ddatrys problem fusnes go iawn a nodi eich cyfle AI mwyaf gwerthfawr

Canlyniad: Nodi cyfleoedd lle gall AI ychwanegu gwerth i'ch busnes, dewis offer AI addas ar gyfer eich anghenion, a chreu syniad clir ar gyfer eich cam cyntaf tuag at fabwysiadu AI.

Sesiwn 5: Y Data Tu Ôl

•                     Deall pa data sydd gan eich busnes, ble mae'n cael ei gadw, ac a yw'n barod i gefnogi defnydd effeithiol o AI.

•                     Adolygu preifatrwydd, GDPR a risgiau allweddol drwy ddefnyddio rhestr wirio ymarferol.

•                     Nodi unrhyw faterion, rhwystrau neu "linellau coch" a allai fod angen cymorth pellach arnynt.

Canlyniad: Dealltwriaeth o bwysigrwydd parodrwydd data, sut i adolygu risgiau sy'n ymwneud ag AI ac ystyriaethau GDPR, a nodi'r camau nesaf sydd eu hangen i baratoi eich busnes ar gyfer mabwysiadu AI yn ddiogel.

Sesiwn 6: Adeiladu'r Peilot

•                     Dilyn arddangosiad ymarferol, cam wrth gam, i sefydlu offeryn AI a'i gymhwyso i'ch busnes.

•                     Creu, profi a mireinio prompts gyda'n gilydd, gan ddysgu sut i gyflawni canlyniadau gwell drwy brofi ac ailadrodd

•                     Defnyddio AI o fewn busnes eich hun, arbrofi gyda gwelliannau, a rhannu cynnydd drwy bwyntiau gwirio gyda'r garfan

Canlyniad: Cael profiad ymarferol o ddefnyddio offeryn AI, deall sut i greu prompts effeithiol, a nodi sut y gellir integreiddio AI i'ch busnes eich hun.

Sesiwn 7: Cyfrwch y Credydau

•                     Deall sut mae credydau AI yn gweithio a sut i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'ch dyraniad sydd ar gael

•                     Archwilio sut i reoli defnydd o offer AI, costau a'r gwerth i'ch busnes

•                     Dysgu sut i wneud y gorau o'ch buddsoddiad mewn offer AI drwy ddefnyddio ac arbrofi'n gallach.

Canlyniad: Deall sut mae credydau AI yn gweithio, sut i reoli defnydd yn effeithiol, a sut i gael y gwerth gorau o offer AI ar gyfer eich busnes.

Sesiwn 8: Camau Nesa

•                     Myfyrio ar eich taith AI hyd yma a nodi'r prif gyfleoedd ar gyfer eich busnes.

•                     Creu cynllun gweithredu AI ymarferol sy'n amlinellu eich camau nesaf, eich blaenoriaethau a'r meysydd i'w harchwilio ymhellach.

•                     Nodi'r cymorth sydd ei angen i barhau â'ch taith mabwysiadu AI gyda ni!

Amcanion Craidd:

  • Cyfle i fabwysiadau AI mewn 48 awr
  • Gweithio gyda arbennigwr 1:1
  • Datblygu eich sgiliau
  • Gweddnewid eich busnes
  • Datblygu datrusiad AI
  • a’r cyfan am ddim!

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Perchnogion, rheolwyr a masnachwyr unigol BBaChau Cymru sy'n barod i wario dau ddiwrnod llawn i fabwysiadu AI ymarferol, gyda chymorth arbenigol 1:1.

Yn ddelfrydol i'r rhai sydd am symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth a gadael gyda chynllun peilot gweithredol a chynllun gweithredu ar gyfer eu busnes eu hunain.

Nid oes angen cefndir technegol, dim ond dewch â chi'ch hun, gliniadur, a'ch cwestiynau

Pwysig
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac mae'n gyfyngedig i ddau gynrychiolydd fesul busnes.
Wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariannwyd yn llawn gan Busnes Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

1 Hydref 2026 - 2 Hydref 2026, 09:00 - 17:00
M-SParc (Parc Gwyddoniaeth Menai), Ynys Môn, Gaerwen, LL60 6AG

Cost: Am ddim

Crynodeb
Cyflymydd AI deuddydd, wyneb yn wyneb, sy'n tanio diddordeb ar gyfer busnesau bach a canolig Cymru.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan dîm Rhaglen AI Busnes Cymru, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd ac arbenigwyr AI.

Bydd cyfle i aelodau weithio 1:1 gydag arbenigwr AI i ddatblygu eu sgiliau, mapio cyfleoedd, a datblygu ateb AI gweithredol ar gyfer eu busnes eu hunain. 

Diwrnod 1 yn cwmpasu Ymwybyddiaeth a Mapio
Diwrnod 2 yn cwmpasu Mabwysiadu a Gweithredu, gan orffen gydag ateb AI ymarferol a chynllun gweithredu. 


Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. 

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan