Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Defnyddio’r Gymraeg mewn Busnes – Beth sydd ynddo i mi?
Oeddech chi'n gwybod bod defnyddio'r Gymraeg yn gallu denu pobl ddi-Gymraeg i'ch cwmni?
Ac ydych chi'n gwybod ei bod hi'n ddigon hawdd defnyddio'r Gymraeg hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad yr iaith?
Yn ystod sesiwn 40 munud ar-lein byddwch yn clywed gan gadeirydd gweithredol un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf y DU a pherchnogion busnes eraill am y manteision y maent wedi’u profi o weithredu’n ddwyieithog.
Bydd arbenigwr ar sut mae ieithoedd lleiafrifol ledled y byd yn defnyddio dwyieithrwydd mewn marchnata hefyd yn rhannu ei brofiadau, ac yng nghwmni gwesteiwr y digwyddiad Rebecca Hayes o www.sgript.cymru byddwch yn cael gwybodaeth am sut y gall eich brand roi atebion ymarferol ar waith i elwa o ddefnyddio’r Gymraeg.
Mi fydd y sessiynnau yn cynnwys –
- Cyfweliadau gyda chwsmeriaid a busnesau
- Clipiau fideo gyda pherchnogion busnes dwyieithog
- Tystiolaeth gan berchnogion busnes am eu profiad
- Tystiolaeth gan Awdurdodau Lleol
- Cyfweliad gan arbenigwr marchnata sy'n egluro pam fod y Gymraeg yn arf busnes gwerthfawr.
- Vox pops gan ddefnyddwyr/siopwyr.
- Ystadegau ynglŷn â barn defnyddwyr am y Gymraeg/cefndir economaidd-gymdeithasol siopwyr dwyieithog/uniaith.
- Cyfleoedd cadwyn gyflenwi
Bydd y sesiynau yn edrych ar enghreifftiau o berchnogion busnes proffil uchel yng Nghymru, a manteision o fod yn ddwyieithog.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales