[ Neidio i Gynnwys ]

Mapio Meddwl a Rheoli Tasgau Wedi’u Symleiddio

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Digwyddiad yn canolbwyntio ar y cyflogwr, a gyflwynir mewn partneriaeth ag AYOA, cwmni meddalwedd wedi’i leoli ym Mhenarth sy’n arbenigo mewn mapio meddwl, rheoli tasgau a datrysiadau cynhyrchiant.

 

Bydd y gweithdy hwn yn dangos sut y gall defnyddio eu meddalwedd mapio meddwl a rheoli tasgau greu gweithleoedd niwro-gynhwysol sy’n galluogi gweithwyr niwrowahanol a niwro-nodweddiadol i lwyddo. Bydd mynychwyr yn derbyn strategaethau ymarferol i wella cynhyrchiant, cyfathrebu, trefnu a llesiant ar draws timau.


Beth fydd cynnwys y cwrs?


Arddangosiad o’r adnodd mapio meddwl a rheoli tasgau cyflawn gan Ayoa.com

Buddion meddalwedd mapio meddwl a rheoli tasgau ar gyfer cynllunio, blaenoriaethu a chydweithredu.

Gwella eich gwaith tîm gyda meddwl gweledol.

Dysgu am feddwl gweledol fel techneg bwerus i helpu i hwyluso gwell cydweithrediad gyda’ch tîm.

Camau y gallwch eu cymryd i greu diwylliant gweithle mwy cynhwysol

Sut all ymarferion niwro-gynhwysol wella cynhyrchiant, cyfathrebu a llesiant pob gweithiwr

Sut all cyllid Mynediad at Waith helpu i gael gwared ar rwystrau a chefnogi gweithwyr

 

 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

 

Perchnogion busnes niwrowahanol.

Y rhai sy’n awyddus i gefnogi eu gweithwyr niwrowahanol.

Meddylwyr gweledol

Perchnogion busnes

Pobl AD a gweithwyr proffesiynol

Unrhyw un sy’n gyfrifol am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).


BBaCh o Gymru. Uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul busnes - yn amodol ar Gofrestru'n Llwyddiannus â Busnes Cymru.
 

Caiff y digwyddiad hwn ei gyflwyno gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau

22 Hydref 2026, 10:00 - 12:00
OpenGenius, Penarth, CF64 1SA

Cost: Am ddim

Gweld lleoliad

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan