[ Neidio i Gynnwys ]

Marchnata ar Dudalen – Llunio strategaeth farchnata

Bydd y sesiwn hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg

Trosolwg

Cost: Am ddim

Ymunwch â ni am weminar ymarferol fydd yn ceisio symleiddio eich strategaeth farchnata a chreu cynllun clir un dudalen sy'n hawdd ei ddeall, i gyfeirio'n ôl ato ac i rannu â'ch tîm. 

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu sut i bennu nodau busnes allweddol a sefydlu Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) marchnata i sicrhau bod eich strategaeth yn aros ar y trywydd iawn. Byddwn yn edrych yn fanwl ar bersonâu eich cynulleidfa, gan sicrhau bod eich negeseuon yn ennyn diddordeb y bobl gywir. 

Cewch ddarganfod sut i greu eglurder ynghylch gwerth unigryw eich cynnig, a phennu pa sianeli craidd fydd yn cefnogi eich amcanion orau. Byddwn hefyd yn rhannu haciau ar gyfer creu cynnwys yn gyflym i'ch helpu i barhau i fod yn gyson a deniadol. 

Ar y diwedd bydd gennych strategaeth farchnata ymarferol a chlir ar un dudalen - erfyn hanfodol i gadw ffocws, i sicrhau cysondeb o fewn eich tîm ac i ysgogi canlyniadau.

Beth fydd cynnwys y digwyddiad? 

  •        Pennu eich nodau busnes a sefydlu Dangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol ar gyfer marchnata
  •        Diffinio a deall personâu'r gynulleidfa er mwyn targedu negeseuon
  •        Creu eglurder ynghylch gwerth unigryw eich cynnig er mwyn sefyll allan yn y farchnad
  •        Dewis y sianeli marchnata craidd sy'n cyd-fynd â'ch strategaeth
  •        Haciau cyflym er mwyn datblygu cynnwys deniadol a chyson
  •        Creu strategaeth farchnata un dudalen y gellir cyfeirio ati'n rhwydd a'i defnyddio i sicrhau cysondeb o fewn y tîm
  •        Awgrymiadau ymarferol ar gyfer gweithredu ac addasu eich strategaeth dros amser

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy?

Mae'r sesiwn hon yn berffaith i berchnogion busnes, marchnatwyr ac entrepreneuriaid sydd am greu strategaeth farchnata glir y gellir ei gweithredu. Os ydych chi ond megis dechrau neu eisiau mireinio eich dull o weithredu, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i greu cynllun un dudalen i gadw eich nodau, eich cynulleidfa a'ch strategaeth cynnwys yn gyson ac effeithiol.

Dyddiadau

11 Rhagfyr 2024, 13:30 - 14:45
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


01656 868 500
E-bost | Gwefan