Marchnata Digidol (i ddechreuwyr) - CCIF (Ar-Lein)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Byddwn yn eich arwain drwy bopeth sydd ei angen arnoch i greu neu gomisiynu eich gwefan newydd, gan gynnwys: enwau parth, gwe-letya, cyfeiriad e-bost proffesiynol, diogelwch,llwyfannau gwefannau, a mwy.
Byddwn yn edrych ar:
- Enwau parth – beth ydyn nhw, sut mae cael un, a beth sydd angen i chi ei ystyried
- Cyfeiriad e-bost proffesiynol – yr e-bost safon aur, gan ddefnyddio eich parth
- Lletya – beth ydyw, awgrymiadau ar gyfer dewis darparwr lletya ar gyfer eich gwefan a’ch e-bost
- Blychau post - rheoli e-bost wedi'i letya
- Beth yw eich opsiynau– ydy gwefannau am ddim yn werth yr arian?
- Tystysgrifau SSL – sut i gadw eich gwefan yn ddiogel
- Beth yw System Rheoli Cynnwys, e.e. WordPress?
- Manteision ac anfanteision llwyfannau gwefannau hollgynhwysol fel Wix, Shopify
- Gwefannau proffesiynol/ amhroffesiynol
Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
- Cymorth 1:1 wedi’i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi’i deilwra.
- Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom