Marchnata E-bost Effeithiol – Lefel Uwch - CCIF (Gweminar)
Trosolwg
Cost: Am ddim
Cysylltu â’ch cwsmeriaid drwy farchnata drwy’r e-bost
Er gwaethaf dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol, mae marchnata drwy’r e-bost yn offeryn gwerthfawr o hyd yn eich blwch marchnata digidol. Hefyd, dyma un o’r dulliau marchnata ar-lein rhataf a mwyaf effeithiol sydd ar gael.
A gan fod y rhan fwyaf o bobl â’u golwg ar eu ffôn drwy’r amser, mae defnyddio’r e-bost yn golygu y gallwch gyrraedd cwsmeriaid bob adeg.
Fodd bynnag, gyda chynifer o negeseuon e-bost yn llifo i flychau negeseuon, sut mae gwneud i’ch neges chi sefyll allan? Ymunwch â weminar rhad ac am ddim Cyflymu Cymru i Fusnesau ar Farchnata Effeithiol drwy’r E-bost i ddysgu sut.
Byddwn yn trafod:
- Hanfodion ymgyrch e-bost
- Sut i ddatblygu strategaeth marchnata drwy’r e-bost
- Sut i adeiladu eich rhestr o fewn ffiniau rheoliadau, fel y GDPR a PECR
- Sut i dargedu’ch cynulleidfaoedd gan ddefnyddio segmentu a phersonoli
- Defnyddio templedi a chreu negeseuon e-bost sy’n hoelio sylw cwsmeriaid
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn nawr!
Neu cadwch le drwy ffonio 03332 408329.
Dyddiadau a lleoliadau
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom