[ Neidio i Gynnwys ]

Meddwl gydag AI: Gweithio'n Gliriach, Gwneud Penderfyniadau Gwell ac Arbed Amser

Trosolwg

Cost: Am ddim

Crynodeb

Gweminar ymarferol gyda IT Associates ar gyfer BBaChau Cymru. Byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio AI i feddwl am waith, sut y gall helpu gyda gwaith sy'n ailadrodd, a sut y gall gymryd gwybodaeth gymhleth a'i throi'n gynllun gweithredu clir. Caiff y cynllun a'r weminar eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy Busnes Cymru.

Prif Amcanion:

Bydd y sesiwn yn cwmpasu:

  1. Defnyddio AI fel partner meddwl. Sut y gall leihau baich a chefnogi cynllunio; mae'n llawer mwy nag arf i greu cynnwys.
  2. Llif gwaith AI ymarferol. Symud o wybodaeth i weithredu a strwythuro gwaith cyn cynhyrchu allbwn.
  3. Cymwysiadau busnes bob dydd. Trin e-byst cwsmeriaid anodd, troi nodiadau cyfarfod yn gamau gweithredu, a nodi risgiau, opsiynau a chamau nesaf.
  4. Gwella penderfyniadau busnes. Adolygu syniadau'n wrthrychol a chreu cynlluniau gweithredu cliriach.

Yn cynnwys arddangosiad byw drwy sefyllfa fusnes realistig.

Wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariennir yn llawn gan Fusnes Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?

Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer:

Perchnogion, rheolwyr a gweithwyr BBaChau Cymru sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o AI ac sydd am ei adeiladu i mewn i'r ffordd y maent yn gweithio, i arbed amser, gwella gwneud penderfyniadau a lleihau baich meddyliol. Nid oes angen cefndir technegol.

Tagiau: meddwl gydag AI, llif gwaith AI, penderfyniadau busnes, cynhyrchedd, busnes Cymreig, Busnes Cymru, BBaCh, IT Associates, gweminar am ddim, AI ar gyfer gwneud penderfyniadau

Dyddiadau

22 Hydref 2026, 09:30 - 11:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Crynodeb

Gweminar  ymarferol   gyda  IT Associates  ar   gyfer   BBaChau  Cymru.  Byddwn   yn   edrych   ar   sut   mae   defnyddio  AI  i   feddwl  am  waith ,  sud  y gall  helpu   gyda   gwaith   sy’n  ail  adrodd  a  sut  gall  gymryd   gwybodaeth   sy’n   gymleth   a’i   droi   yn   gynllun   gweithredu   clir . 

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales


03000 6 03000
E-bost | Gwefan