[ Neidio i Gynnwys ]

Meithrin eich Brand: Symud y Tu Hwnt i logo ar gyfer eich Busnes Newydd

Trosolwg

Cost: Am ddim

Meithrin brand sy’n cefnogi twf busnes newydd. Mae’r sesiwn ymarferol hon yn helpu busnesau newydd ddeall beth yn union yw brand a sut i’w ddefnyddio’n effeithiol.

Byddwn yn trafod hanfodion lleoliad, tôn y llais a gwerthoedd, ynghyd â’r pethau sylfaenol, sef hunaniaeth weledol a chysondeb ar draws sianeli.

Bydd y ffocws ar eglurdeb yn hytrach na theori, gan helpu busnesau i wneud penderfyniadau hyderus am y modd y maent yn cyflwyno eu hunain.

Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau brand cryf, fydd yn meithrin ymddiriedaeth a gwneud marchnata yn haws, gan greu sylfaen glir ar gyfer twf.

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych well synnwyr o beth yw pwrpas eich brand a sut i’w ddefnyddio’n gyson wrth i’ch busnes ddatblygu.

Bio’r Cyflwynydd –

Olu yw cyd-sylfaenydd Tropic, asiantaeth ddigidol sy’n gweithio gyda busnesau sy’n chwarae rhan allweddol mewn cymdeithas. Cyn sefydlu Tropic, arweiniodd raglenni Cyflymydd yn llwyddiannus ac mae wedi mentora rhai o’r busnesau newydd sydd â’r twf mwyaf yn y DU. Bellach yn gyfarwyddwr strategol yn Tropic, mae ei gleientiaid yn cael cyfuniad perffaith o gipolygon strategol a chanlyniadau creadigol, gan eu helpu nhw i lwyddo yn eu busnes.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiadau

16 Ebrill 2026, 13:00 - 14:30
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan