MIT | Sgwrs Ddiwydiant gyda George Westerman | Massachusetts Institute of Technology
Trosolwg
Cost: Am ddim
Ymunwch â sgwrs ddiwydiant fyw ar-lein gydag MIT, wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru.
Mae MIT (Massachusetts Institute of Technology) yn un o brifysgolion gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd blaenllaw'r byd, ac mae ei ymchwil yn siapio sut mae busnesau ym mhobman yn meddwl am AI.
Mae gan y rhan fwyaf o fusnesau bellach fynediad at AI. Felly pam mae rhai'n symud ar y blaen tra bod eraill yn aros yn eu hunfan? Nid gwell algorithmau yw'r ateb, ond gwybod sut i newid y ffordd rydych yn gweithredu.
Yn y sgwrs hwn, bydd George Westerman (Uwch Ddarlithydd, Ysgol Reoli Sloan MIT; Cymrawd Digidol, Menter MIT ar yr Economi Ddigidol) yn tynnu ar flynyddoedd o ymchwil i rannu chwe chwestiwn hollbwysig y dylai pob tîm arwain eu gofyn i symud AI o brosiectau sydd wedi arafu i brosiectau llwyddiannus. Ar hyd y ffordd, bydd yn dadansoddi astudiaethau achos gan Takeda, Ferrovial, HCA Healthcare, DBS Bank a Dentsu Creative, gan ddangos beth sy'n gwahaniaethu'r enillwyr oddi wrth y gweddill.
Rhan o'n cyfres Sgyrsiau Diwydiant, yn ymuno â chynulleidfa hybrid yn fyw o Raglen Cyswllt Diwydiant MIT.
MIT | Faculty - George Westerman Faculty Member | MIT Sloan Executive Education
Prif Amcanion:
P'un a ydych chi newydd ddechrau archwilio AI neu fod gennych brosiectau sydd wedi arafu, bydd y sesiwn hon yn rhoi ffordd glir ac ymarferol i chi feddwl am beth i'w wneud nesaf.
Beth fyddwch chi'n ei gael:
- Fframwaith chwe chwestiwn ymarferol i'w gymhwyso i'ch strategaeth AI eich hun
- Eglurder ar pam mae prosiectau AI yn aros yn eu hunfan, a sut i osgoi'r problemau cyffredin
- Iaith a thechnegau ar gyfer meithrin cefnogaeth wirioneddol gan weithwyr
- Meddylfryd ar gyfer tyfu: beth i'w drwsio ym maes technoleg, llywodraethu a diwylliant yn gyntaf
- Hyder i siarad yn agored gyda'ch tîm am sut y bydd AI yn newid rolau
- Atebion i'ch cwestiynau eich hun, yn uniongyrchol gan George Westerman, yn y sesiwn holi ac ateb byw
Byddwch yn ymuno â chynulleidfa hybrid yn fyw o Raglen Cyswllt Diwydiant MIT, ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig o bob rhan o Gymru.
Wedi'i gyflwyno fel rhan o'r Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu AI a ariannwyd yn llawn gan Busnes Cymru.
Ar gyfer pwy mae'r sgwrs hon?
Perchnogion, sylfaenwyr a rheolwyr busnesau bach a chanolig Cymru sydd eisiau deall beth mae AI yn ei olygu i'w busnes a dysgu o feddwl blaenllaw'r byd ar newid digidol.
Nid oes angen cefndir technegol.
Dyddiadau
Mae archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn ar gau erbyn hyn.
Amodau arbennig
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.
Termau
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trefnydd y digwyddiad
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales