Fordwyaeth
Cost: Am ddim
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ddysgu gan reolwr canolfan siopa profiadol, a fydd yn cymryd gwersi bywyd go iawn o’u portffolio helaeth i ddangos sut y gall busnesau ddefnyddio data i wneud penderfyniadau busnes strategol.
Medi Parry-Williams yw sylfaenydd MPW Making Places Work ac mae ganddi 15 mlynedd o brofiad mewn adfywio canolfannau siopa a chanol trefi. Mae Medi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer 7 canolfan siopa ar draws y DU gan weithio i bob pwrpas gyda dros 300 o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol a’u cefnogi yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda dau gwmni ar wahân. Ochr yn ochr â’i phrofiad rhyngwladol mae Medi hefyd wedi gweithio gydag Adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn ac mae hi'n angerddol iawn dros busnesau Cymreig.
Mae’r sesiwn hon yn rhan o gyfres ‘Trefi Smartar gyfer Busnes Smart’ ond bydd hefyd yn werthfawr fel sesiwn ar ben ei hun. Mae’r sesiwn wedi’i hanelu at berchnogion a rheolwyr busnesau’r stryd fawr sydd am dyfu a gwneud y gorau o’u busnes gan ddefnyddio data ond bydd hefyd yn ddefnyddiol i reolwyr canolfannau siopa neu canol tref sydd am gefnogi eu busnesau. Bydd y sesiwn yn rhagdybio nad oes unrhyw wybodaeth dechnegol flaenorol ac yn cadw’n glir o jargon technoleg gan ganolbwyntio ar y canlyniadau cadarnhaol i’ch busnes.
Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom: Wales