Fordwyaeth
Cost: Am ddim
P'un a ydych eisoes yn allforio neu'n ystyried allforio am y tro cyntaf, mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr y diwydiant a derbyn arweiniad ar gyllid allforio a chymorth sydd ar gael i helpu'ch busnes i dyfu'n rhyngwladol.
Bydd y sesiwn hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i fusnesau glywed yn uniongyrchol gan bartneriaid allweddol am y cyngor a'r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi mynediad at gyllid allforio. Bydd pynciau yn cwmpasu ystod o feysydd pwysig, gan gynnwys rheoli credyd, gwasanaethau cyfnewid arian cyfred, adennill dyled, cymorth ariannol, a strategaethau ar gyfer rheoli risgiau talu.
Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn un-i-un gydag arbenigwr yn dilyn y seminar, gan roi cyfle i drafod diddordebau penodol a gofyn cwestiynau manwl mewn lleoliad mwy personol.
Nifer benodol o leoedd sydd, felly anogir chi yn gryf i gofrestru'n gynnar i sicrhau eich lle ac osgoi cael eich siomi.
Ar agor i bob busnes yng Nghymru sydd ag uchelgais i ddatblygu’n rhyngwladol. Nid yw’n berthnasol i ganolwyr na chyflenwyr gwasanaethau masnach ryngwladol
Gweler yma i weld sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .
Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.
EET
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales