[ Neidio i Gynnwys ]

O Syniad i Dwf Cynnar: Meithrin Sylfeini Cadarn Sy’n Helpu I'ch Busnes Ehangu

Trosolwg

Cost: Am ddim

Mae’r weminar hon yn helpu sylfaenwyr cam cynnar a pherchnogion busnesau bach i ddeall sut i feithrin sylfeini ymarferol, cadarn sy’n cefnogi twf cynaliadwy. Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar heriau go iawn i fusnesau newydd sy’n cynnwys blaenoriaethu, strwythur, pwyslais masnachol ac osgoi camgymeriadau cynnar cyffredin. Bydd mynychwyr yn gadael gyda chamau gweithredu ymarferol, clir i wella sut maent yn rhedeg eu busnes ac yn paratoi ar gyfer twf yn y dyfodol.

BIO yr Hwylusydd

Mae Lucy Bulley yn Brif Swyddog Gweithredu (COO) Ffracsiynol a Chynghorydd Bwrdd sy’n cefnogi sylfaenwyr a thimau arwain i feithrin y strwythur, yr eglurder a’r sylfeini gweithredol sydd eu hangen ar gyfer twf cynaliadwy. Mae’n gweithio gyda chwmnïau cam cynnar a busnesau newydd sy’n ehangu ar hyd a lled y DU i’w helpu i symud o syniadau a chynnydd cynnar i fusnesau trefnus sy’n canolbwyntio ar fasnach.

Mae Lucy wedi cyflwyno gweithdai a rhaglenni i gyflymwyr a sefydliadau cymorth busnes gan gynnwys carfannau busnesau newydd, sylfaenwyr cam cynnar a BBaCh sy’n canolbwyntio ar dwf. Mae hi'n adnabyddus am drosi syniadau cymhleth, gweithredol yn gyngor ymarferol y gall sylfaenwyr ei gymhwyso, yn enwedig pan fo adnoddau, amser a hyder yn brin.

Mae ei hagwedd yn bragmatig, yn ddiffuant ac yn ystyriol o sylfaenwyr, gan ganolbwyntio ar helpu perchnogion busnes i wneud penderfyniadau gwell, symleiddio’r hyn sy’n teimlo’n ormod a chreu busnesau sy’n addas i'w bywydau yn ogystal â’u huchelgeisiau.

Mae’r digwyddiad yma yn cael ei gynnal gan Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru

Dyddiadau

7 Gorffennaf 2026, 14:00 - 16:00
Digwyddiad ar-lein

Cost: Am ddim

Amodau arbennig

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth dwyieithog ac mae ein digwyddiadau a'n gweithdai ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar ôl cofrestru, rhowch wybod i ni beth yw eich dewisiadau iaith.

Termau

Gweler yma i weld sut mae Busnes Cymru yn trin eich gwybodaeth . Os ydych yn archebu lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru , mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i gynnig gwasanaethau personol neu leol chi , i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth , i ofyn eich barn ac i helpu ni i wella ein gwasanaethau .

Mae wefannau y byddwn yn cysylltu â nhw yn debygol o fod gyda Thelerau ac Amodau sy'n wahanol i'n rhai ni . Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

Bydd y wybodaeth a ddarparwch fel rhan o'r archeb yn cael ei chadw am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben.

Trefnydd y digwyddiad

Busnes Cymru
Welsh Government
Sarn Mynach
Llandudno Junction
Conwy
LL31 9RZ
United Kingdom


03000 6 03000
E-bost | Gwefan