[ Neidio i Gynnwys ]

Hysbysiad Preifatrwydd

Fforymau Cenedlaethol NYTH (rhithwir)

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd rhithwir drwy MS Teams sy'n canolbwyntio ar fframwaith NYTH ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc.

Yn rhan o'r broses o gofrestru, hwyluso a darparu dogfennau cryno a dogfennau atodol ar gyfer y cyfarfodydd hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gasglu rhagor o ddata personol oddi wrth ddarpar fynychwyr.

 

Data personol

Mae data personol yn cyfeirio at ddata y gellir ei ddefnyddio i adnabod unigolyn byw.  Efallai y bydd modd adnabod rhywun drwy ddata wedi'i gyflwyno ar gyfer y digwyddiad hwn yn unig, neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth arall sydd gan y Rheolydd Data. Byddwn yn ymdrin â data personol yn unol â'n hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, a'i gadw mewn amgylchedd diogel, a bydd mynediad iddo yn cael ei gyfyngu yn unol â'r egwyddor 'angen gwybod'.

Mae manylion ein cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ar gael ar-lein yn: https://www.llyw.cymru/rheoli-gwybodaeth.

 

Pwy sy'n casglu ac yn defnyddio data personol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel y Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu neu a fydd yn cael ei gasglu gennyn ni. Byddwn yn sicrhau bod y data'n cael ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 18) a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).

 

Pa ddata personol yr ydyn ni'n ei gasglu?

Yn ystod y broses gofrestru, gofynnir i ddarpar fynychwyr ateb cyfres o gwestiynau. Gofynnir am eu henw, eu cyfeiriad e-bost, enw eu cyflogwr/y sefydliad maen nhw'n ei gynrychioli a'u cyfeiriad post cysylltiedig, eu dewis iaith a theitl eu swydd. Yn ystod ac ar ôl y cyfarfod, gall staff Llywodraeth Cymru sy'n hwyluso'r cyfarfod wneud nodiadau neu gofnodion o gynnwys y cyfarfod. Gellir cofnodi unrhyw gyfraniadau llafar, neu negeseuon yn y bar sgwrsio, yn y nodiadau hyn.

 

Beth byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth bersonol a gesglir?

Yn rhan o'n cylch gwaith fel y rheolwr data, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data i wneud y canlynol:

·       Nodi a monitro pwy sy'n bresennol;

·       Sicrhau bod ein nodiadau'n gywir, gan gynnwys crynodebau, pwyntiau allweddol, cwestiynau, penderfyniadau a chamau gweithredu; a

·       Galluogi dosbarthu deunyddiau dilynol (pan fo'n berthnasol).

Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac i arfer ein hawdurdod swyddogol.

 

 phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth bersonol?

Yn ystod cofrestru mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu at ddibenion gweinyddol yn unig, ac ni fydd yn cael ei rhannu'n fewnol y tu hwnt i'r egwyddor 'angen gwybod' uchod, ac eithrio pan fydd yr wybodaeth yn hyrwyddo gallu Llywodraeth Cymru i ymgymryd â'i rôl a'i swyddogaethau craidd.

Os ydych wedi cael eich gwahodd a bod unrhyw gwestiynau neu bryderon gennych ynglŷn â'r data hwn yn cael ei rannu â swyddogion Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n bresennol yn y cyfarfod, neu os hoffech nodi pryder ynghylch preifatrwydd ymlaen llaw, dylech gysylltu â'r tîm Partneriaethau ac Integreiddio ymlaen llaw yn y cyfeiriad e-bost ar ddiwedd y ddogfen hon.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Bydd manylion personol a gesglir yn ystod cofrestru, a chynnwys unrhyw nodiadau cryno o'r cyfarfod wedi'u creu yn ystod neu ar ôl y cyfarfod, yn cael eu cadw'n ddiogel gan Lywodraeth Cymru. Argymhellir bod y data hwn yn cael ei gadw am ddeng mlynedd fel rhan o amserlen gadw a gwaredu data  Llywodraeth Cymru. Ni chedwir unrhyw wybodaeth am gyfnod amhenodol.

 

Hawliau mynychwyr mewn perthynas â gwybodaeth bersonol.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gan unigolion yr hawliau canlynol:

·       i weld y data personol rydyn ni'n ei brosesu amdanyn nhw;

·       i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

·       i wrthwynebu prosesu'r data (o dan rai amgylchiadau);

·       i'w data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau);

·       i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data.

 

Manylion cyswllt

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os ydych am ddefnyddio eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

 

Y Tîm Partneriaethau ac Integreiddio
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: partneriaethauacintegreiddio@llyw.cymru

 

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: <https://cy.ico.org.uk>

Trefnydd y digwyddiad

HSCEY
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government Offices
Parc Cathays / Cathays Park
Caerdydd / Cardiff
CF10 3NQ
United Kingdom: Wales


03000254073
E-bost | Gwefan